Locomotif dosbarth 5MT Stanier 4-6-0: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cyfeiriad
locomotifau Ivatt
Llinell 10:
 
Archebwyd 20 locomotif o [[Gweithdy Cryw|Weithdy Cryw]] ym mis Ebrill 1934, a 50 o [[Ffowndri Vulcan]] ym 1933. Roedd ganddynt amrywiaeth o foelers. Archebwyd 5 locomotif arall o Gryw, 50 o Ffowndri Vulcan a 100 o [[Cwmni Armstrong Whitworth|Gwmni Armstrong Whitworth]]. Archebwyd 227 o Armstrong Whitworth ym 1936, a 20 o Gryw. Adeiladwyd locomotifau yng [[Gweithdy Derby|Ngweithdy Derby o 1943 ymlaen. Newidwyd rhifau’r locomotifau ym 1948. Yn y pen draw, adeiladwyd 842 o locomotifau, gyda’r rhifau 44658-45499.
 
==Locomotifau Ivatt==
Adeiladwyd y fersiwn [[George Ivatt|Ivatt]] o 1947 ymlaen gyda nifer o addasiadau; roedd newidiadau i ferynnau a gêr falf ym 1948. Roedd hefyd blychau tân dur a simneau dwbl. Cafodd 44738-57 [[Gêr falf Caprotti]] a chafodd 44686-7 gêr falf Caprotti newydd, defnyddiwyd yn ddiweddarach ar rai o locomotifau safonol [[Rheilffordd Brydain]].