Ochr 1: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
sillafu
Cwmcafit (sgwrs | cyfraniadau)
linc gwobrau'r selar
Llinell 28:
Rhaglen arbennig arall oedd ''Ochr 1: Aron Elias''. Roedd Aron Elias o Borthmadog yn brif leisydd i un o grwpiau Hip-Hop mwyaf dylanwadol Cymru, [[Pep Le Pew]]. Erbyn hyn mae'n byw mewn ogof ar ochr mynyddoedd Sacromonte, ger Granada, a hynny heb ddŵr ‘na thrydan. Mae'n treulio ei ddyddiau yn bysgio am ddigon o arian i'w gynnal am y dydd, a hynny ymysg rhai o gerddorion fflamenco mwyaf medrus y byd. Gyda cherddoriaeth unigryw Aron, ynghyd â thirwedd a phensaernïaeth godidog Granada yn gefndir, mae’r rhaglen hon yn rhoi portread ar fywyd a meddylfryd un o gerddorion mwyaf dawnus ac unigryw Cymru.
 
Mae Ochr 1 yn hynod o gynhyrchiol mewn amrywiaeth o wyliau Cymraeg. Ym mis Chwefror, cynhelir noson Gwobrau’r [[YGwobrau’r Selar|Selar]] sy’n gwobrwyo bandiau ac unigolion y sîn roc Gymraeg. Yn yr wythnosau cyn y gwobrau, mae Ochr 1 yn cynhyrchu a rhyddhau fideos ar YouTube yn datgelu’r rhestrau byrion ac ar y noson ei hun, mae’r rhaglen yn cyfweld â’r enillwyr ac yn cofnodi’r noson fel bod modd ail-fyw’r cyffro i’r rhai oedd yno, neu alluogi’r rhai oedd methu bod yn rhan o’r noson. Yn ystod wythnos yr [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru|Eisteddfod Genedlaethol]], mae Ochr 1 yn darlledu bandiau yn chwarae’n fyw o nosweithiau poblogaidd Maes B. Yn ogystal â hyn, mae llawer o fideos o’r setiau byw, sesiynau acwstig a chyfweliadau gyda’r bandiau ar gael ar sianel YouTube Ochr 1 fel bod modd ail-wylio eitemau’r rhaglen.
 
==Cyfeiriadau==