Waunfawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 33:
nifer o'r preswylwyr yn aelodau o gapel Bethel y Waunfawr â byddant yn cerdded lawr yr allt hir â serth i'r oedfaon yn aml ar y Sul. Pan fyddai'r tywydd yn arw, byddai llawer o'r bobl hyn yn mynychu'r gwasanaeth yn yr Ysgoldy bach, â byddai'r adeilad ar yr adegau hyn yn llawn i'r ymylon gyda chanu bendigedig i'w glywed yn swn nodau'r [[harmoniwm]].</br>
Yn wahanol î'r capeli, cynhaliwyd cyfarfodydd yr Ysgol Sul yn y bore. Byddai hyn bob yn ail Sul ag Ysgoldy Bâch y Groeslon, (gyferbyn â Gwelfor, ar ffordd Ceunant). Y rheswm am hyn oedd gan byddai'r Gweinidog neu'r pregethwr fyddai'n pregethu yng nghapel Bethel yn y bore âr nós, yn rhydd i fynd i bregethu yn yr Ysgoldai bach hyn yn y prynhawn. Arwahan i'r gwasanaethau, cynhaliwyd cystadleuaethau 'Cythraul Canu', sef y rhai gorau am ganu emyn neu ambell gân werin. Roedd unawdwyr arbennig yn eu plith â byddai'r gydymgeisiaeth rhwng rhai o'r teuluoedd bryd hynny yn eithriadol o gystadleuol.</br>
Roedd John Jones, Gwastadfaes, fy(taid nhaid,yr awdur GMJ) yn flaenor uchel ei barch yng nghapel Bethel y Waun yn yr hen amser ac, o bryd i'w gilydd, byddai'n mynychu'r cyfarfodydd yn Ysgoldy Penrallt â chymryd rhan ynddynt. Ni wisgai gôt fawr o gwbl wrth gerdded i fyny'r allt ar waethaf y tywydd, dim ond sâch ffetan dros ei war â'i ysgwyddau i'w gadw'n sŷch a chynnes. John Jones fyddai'n barnu â chadw trefn ar yr aelodau fyddai'n cymryd rhan yng nghystadleuaethau'r 'Cythraul Canu'. Byddai'r rhain ar brydiau a dweud y lleiaf yn danllyd tu hwnt. Wedi iddo fynd i oedran â methu mwyach gerdded yr allt, derbyniodd fy nhaid ffon gerdded yn anrheg gan yr aelodau am ei wasanaeth â'i gymwynasgarwch i'r Ysgoldy.<ref>Gwilym Morris Jones [Eco'r Wyddfa] yn y wasg</ref>.
 
;Y Pot Golch