Pelagius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
sylw anacronistaidd
Llinell 14:
Ysgrifennodd sawl traethawd yn egluro ei athrawiaeth, yn cynnwys ''De Natura'' a ''De Liber Arbitrio''. Cafodd athrawiaeth Pelagius ei chyhoeddi'n anathema yn y 5g a'r ganrif olynol a bu Pelagius yn gyff gwawd am ganrifoedd wedi hynny. Cadarnhawyd y farn mai heretic oedd Pelagius gan [[Cyngor Trent]] (1545-1563). Roedd ei athrawiaeth yn wrthun i'r [[Calfin]]iaid ac i aelodau o Eglwys Loegr a oedd yn Arminaidd erbyn yr 17g fel Ellis Wynne a Theophilus Evans, er gwaethaf y ffaith i feddylwyr Calfinaidd fel Esgob Armagh James Ussher alw Arminiaeth yn 'Neo-Belagiaeth'.
 
Un o'i ddisgyblion ysbrydol oedd yr awdur a adweinir fel [[Y Brython Sisilaidd]]. Ysgrifennodd gyfres o lithiau radicalaidd yn dwyn y teitl ''De Divitis'' ("Ynghylch y Goludog"), llithiau a leisiodd gefnogaeth i'r blaid radicalaidd ymhlith dilynwyr Pelagius. Ceir ynddynt syniadau herfeiddiol iawn, [[sosialaeth|sosialaidd]] eu naws, am greu cymdeithas gwbl gyfartal gydag eiddo yn cael ei rhannu gan bawb. Ei ebychiad oedd ''Tolle divitem"'' ("I lawr â'r goludog!").
 
Mae'r dystiolaeth yn gymysg am ddylanwad Pelagiaeth yn y Brydain ôl-Rufeinig a'r Gymru gynnar. Yn ôl traddodiad, ymwelodd Sant [[Garmon]] (Germanus) â Phrydain i ymladd dylanwad 'Pelagiaeth'; awgryma hynny fod dilynwyr Pelagius yn niferus yno. Mae [[Gildas]] yn cyhuddo'r Brenin [[Maelgwn Gwynedd]] o fod yn Belagiad. Yn ôl ''Buchedd Dewi'', llyfr canoloesol sy'n honni adrodd hanes bywyd [[Dewi Sant]], cynhaliwyd [[synod]] [[Llanddewi Brefi]] yn y 6g, lle galwyd ar Ddewi i gondemnio 'Pelagiaeth', oherwydd pryder fod dylanwad Pelagius yn gryf yng Nghymru. Cynhaliwyd y gondemniaeth Gymraeg ar Pelagius gan Richard Davies yn 'Epistol at y Cembru' a ragflaena'r cyfieithiad o'r Testament Newydd a wnaethpwyd gan William Salesbury yn 1567, a chan haneswyr eraill fel Humphrey Llwyd, Charles Edwards, a Theophilus Evans sy'n traethu amdano'n estynedig yn Nrych y Prif Oesoedd.