Pelagius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
sylw anacronistaidd |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 12:
Wrth i'r [[Fisigothiaid]] baratoi i ymosod ar Rufain yn 410, ffois o'r ddinas honno i dalaith Rufeinig [[Affrica (talaith Rufeinig)|Affrica]]. Yno wynebodd wrthwynebiad ffyrnig Awstin o Hippo. Oddi yno fois i [[Palesteina|Balesteina]].
Ysgrifennodd sawl traethawd yn egluro ei athrawiaeth, yn cynnwys ''De Natura'' a ''De Liber Arbitrio''. Cafodd athrawiaeth Pelagius ei chyhoeddi'n anathema yn y 5g a'r ganrif olynol a bu Pelagius yn gyff gwawd am ganrifoedd wedi hynny. Cadarnhawyd y farn mai heretic oedd Pelagius gan [[Cyngor Trent]] (1545-1563). Roedd ei athrawiaeth yn wrthun i'r [[Calfin]]iaid ac i aelodau o Eglwys Loegr a oedd yn Arminaidd
Un o'i ddisgyblion ysbrydol oedd yr awdur a adweinir fel [[Y Brython Sisilaidd]]. Ysgrifennodd gyfres o lithiau radicalaidd yn dwyn y teitl ''De Divitis'' ("Ynghylch y Goludog"), llithiau a leisiodd gefnogaeth i'r blaid radicalaidd ymhlith dilynwyr Pelagius. Ceir ynddynt syniadau herfeiddiol iawn, am greu cymdeithas gwbl gyfartal gydag eiddo yn cael ei rhannu gan bawb. Ei ebychiad oedd ''Tolle divitem"'' ("I lawr â'r goludog!").
|