Pelagius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 12:
Wrth i'r [[Fisigothiaid]] baratoi i ymosod ar Rufain yn 410, ffodd o'r ddinas honno i dalaith Rufeinig [[Affrica (talaith Rufeinig)|Affrica]]. Yno wynebodd wrthwynebiad ffyrnig Awstin o Hippo. Oddi yno fodd i [[Palesteina|Balesteina]].
 
Yn 415 trialwyd ef ddwywaith dan gyhuddiad o heresi gan gyngor eglwysig ym Mhalesteina ond dyfarnwyd ef yn ddieuog. Yn 418 newidioddcondemniwyd yef Pabfel eiheretic feddwlgan a'iy gondemnio fel hereticPab.
 
Ysgrifennodd sawl traethawd yn egluro ei athrawiaeth, yn cynnwys ''De Natura'' a ''De Liber Arbitrio''. Cafodd athrawiaeth Pelagius ei chyhoeddi'n anathema yn y 5g a'r ganrif olynol a bu Pelagius yn gyff gwawd am ganrifoedd wedi hynny. Cadarnhawyd y farn mai heretic oedd Pelagius gan [[Cyngor Trent]] (1545-1563). Roedd ei athrawiaeth yn wrthun i'r [[Calfin]]iaid ac i aelodau o Eglwys Loegr a oedd yn Arminaidd ers yr 17g fel Ellis Wynne a Theophilus Evans. Roedd hyn er gwaethaf y ffaith i feddylwyr Calfinaidd yr Eglwys fel Esgob Armagh James Ussher alw Arminiaeth yn 'Neo-Belagiaeth' yn ''Britannicarum ecclesiarum antiquitates: quibus inserta est pestiferae adversus Dei gratiam a Pelagio Britanno in ecclesiam inductae haereseos historia'' a gyhoeddwyd yn 1639.