Pelagius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 10:
Cymharol ychydig a wyddom am ei hanes ei hun. Roedd yn frodor o [[Ynys Prydain|Brydain]], o dras Frythonig, a deithiodd i ddinas [[Rhufain]] ac ymsefydlu yno; ffaith sy'n awgrymu ei fod yn ddinesydd Rhufeinig. Daeth yn adnabyddus yno fel dysgawdr gyda chylch o ddisgyblion o dras fonheddig. Cyhoeddodd ei fod yn bosibl i ddyn ymberffeithio heb ymyrraeth [[Duw]] ac arweiniodd hynny iddo gael ei gyhuddo o wrthod ag athrawiaeth [[pechod gwreiddiol]].
 
Wrth i'r [[Fisigothiaid]] baratoi i ymosod ar Rufain yn 410, ffodd o'r ddinas honno i dalaith Rufeinig [[Affrica (talaith Rufeinig)|Affrica]]. Yno wynebodd wrthwynebiad ffyrnig Awstin o Hippo. Oddi yno foddffodd i [[Palesteina|Balesteina]].
 
Yn 415 trialwyd ef ddwywaith dan gyhuddiad o heresi gan gyngor eglwysig ym Mhalesteina ond dyfarnwyd ef yn ddieuog. Yn 418 condemniwyd ef fel heretic gan y Pab.