Chwyldro Mecsico: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 2:
 
== Cefndir ==
Ym 1876, dymchwelwyd yr Arlywydd [[Sebastián Lerdo de Tejada]] gan wrthryfel dan arweiniad y Cadfridog [[PorifirioPorfirio Díaz]], a chafodd ei ethol yn arlywydd newydd Mecsico ym Mai 1877. Ac eithrio'r cyfnod 1880–84, pryd gwasanaethodd y Cadfridog [[Manuel González]] yn arlywydd, Díaz oedd unben y wlad am fwy na 30 mlynedd, cyfnod a elwir ''el porfiriato''. Erbyn dechrau'r 1900au roedd Díaz yn ei saithdegau, a chwestiwn ei olyniaeth yn tynnu sylw ei gefnogwyr yn ogystal â'i wrthwynebwyr. Y ddwy brif ochr yn y llywodraeth oedd cylch y ''científicos'' a oedd yn cynghori'r Arlywydd Díaz, a'r ''caudillos'' taleithiol, gan gynnwys y gweinidog rhyfel [[Bernardo Reyes]]. Lladmeryddion gwleidyddiaeth [[positifiaeth|bositifaidd]] oedd y ''científicos'', yn gysylltiedig â dynion busnes Dinas Mecsico, a ddymunasant plaid ganolog, genedlaethol i weithredu llywodraeth dechnocrataidd. Ffurfiwyd hefyd Plaid Ryddfrydol Mecsico (PLM) gan ryddfrydwyr a oedd yn credu bod Díaz yn cyfeiliorni ar Gyfansoddiad 1857, ac enillodd y blaid hon gefnogaeth wrth i [[chwyddiant]], [[diweithdra]], a streiciau waethygu yn y 1900au.
 
Wedi i Díaz alw etholiad arlywyddol ym 1910, sefydlwyd y Blaid Ddemocrataidd gan Bernardo Reyes, a'r Blaid Wrth-Ailetholiadol gan [[Francisco Madero]]. Ceisiodd Díaz ostegu'r gwrthsafiad i'w rym drwy anfon Reyes i Ewrop, a charcharu Madero am annog bradwriaeth. Enillodd Díaz yr etholiad drwy dwyll, gan danio dechrau'r chwyldro.