Chwyldro Mecsico: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 7:
Wedi i Díaz alw etholiad arlywyddol ym 1910, sefydlwyd y Blaid Ddemocrataidd gan Bernardo Reyes, a'r Blaid Wrth-Ailetholiadol gan [[Francisco Madero]]. Ceisiodd Díaz ostegu'r gwrthsafiad i'w rym drwy anfon Reyes i Ewrop, a charcharu Madero am annog bradwriaeth. Enillodd Díaz yr etholiad drwy dwyll, gan danio dechrau'r chwyldro.
 
== Y Chwyldro Rhyddfrydol Madero (1910–13) ==
=== Y gwrthryfel yn erbyn Díaz (1910–11) ===
Yn nhermau gwleidyddol, cychwynnodd chwyldro 1910–11 fel mudiad cyfansoddiadol o fewn y garfan Ryddfrydol. Yn sgil sefydlu'r Weriniaeth Adferedig gan [[Benito Juárez]] o'r hen Blaid Ryddfrydol (''Partido Liberal''; PL) ym 1867, cafodd sawl norm ei gyflwyno i wleidyddiaeth Mecsico: ymlediad y grymoedd arlywyddol, twf canoliaeth, ac ailetholiadaeth. Ym 1871 a 1876 bu "etholfraint effeithiol" yn bwnc pwysig.
 
Wedi i Madero gael ei ryddhau o'r carchar, ffoes i [[Texas]] ac yno cyhoeddodd Gynllun San Luis Potosí ar 20 Tachwedd 1910. Dechreuodd ddau wrthryfel gan werinwyr yn erbyn tirfeddianwyr ym Mecsico: dan arweiniad Pascual Orozco a [[Pancho Villa]] yn [[Chihuahua]], a gwrthryfel y ''pueblos'' dan [[Emiliano Zapata]] ym [[Morelos]]. Yn Chwefror 1911 croesodd Madero y ffin i Chihuahua a chymerodd awennau'r chwyldro, gyda chydsyniad mud llywodraeth yr Unol Daleithiau. Sefydlwyd llywodraeth dros dro ganddo yn [[Ciudad Juárez]].
 
=== Arlywyddiaeth dros dro Francisco León de la Barra (Mai – Tachwedd 1911) ===
Ar 21 Mai 1911 cytunodd Díaz i adael Mecsico ac i gynnal etholiadau rhydd, ar yr amod bod y gwrthryfelwyr yn ymddiarfogi. Er gwaethaf, parhaodd Zapata a'i wrthryfel ym Morelos.
 
=== Arlywyddiaeth Madero (Tachwedd 1911 – Chwefror 13) ===
Enillodd Madero fwyafrif helaeth o'r pleidleisiau yn yr etholiad arlywyddol yn Hydref 1911. Er gwaethaf ei fuddugoliaeth, trodd nifer o'i gyd-chwyldroadwyr yn ei erbyn. Arweiniodd Reyes wrthryfel methedig yn ei erbyn. Yn Nhachwedd cyhoeddodd Zapata Gynllun Ayala, a bu gwrthryfel newydd yn Chihuahua, ac aflonyddwch diwydiannol mewn rhannau eraill o'r wlad. Collodd yr Arlywydd Madero gefnogaeth yr Unol Daleithiau drwy gyflwyno treth ar gynhyrchu olew.
 
Ym 1912, gyda chymorth ei frawd Gustavo a'i ewythr Ernesto, ymdrechodd Madero atgyfnerthu ei rym drwy dorri ei gysylltiadau â'r ''científicos''. Arweiniodd Félix Díaz, nai'r cyn-arlywydd, wrthryfel yn Hydref 1912 i geisio adfer y ''científicos''.
 
=== ''La Decena Trágica'' (Chwefror 1913) ===
Yn Chwefror 1913 bu'r ail ymgais i adfer y ''científicos'', gan gychwyn yr hyn a elwir ''La Decena Trágica''. Yn sgil miwtini yn erbyn Madero yn Ninas Mecsico, trodd y Cadfridog [[Victoriano Huerta]] yn ei erbyn a gorfododd iddo ymddiswyddo. Wedi i Huerta gipio'r arlywyddiaeth, gorchmynnodd lofruddiaeth Madero a'i is-arlywydd Pino Suárez, diddymodd y ddeddfwrfa, a sefydlodd ei hun yn unben milwrol ar Fecsico. Penododd Huerta ''científicos'' yn ogystal ag aelodau o blaid Reyes i'w gabinet.