Cymru yng Nghystadleuaeth Junior Eurovision: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dadwneud. Roedd pennawd y dudalen yn gywir o'r blaen. Wedi creu dolen heb dreiglad.
Llinell 1:
Cyhoeddwyd ar 9 Mai 2018 byddai '''Cymru''' yn cystadlu am y tro cyntaf yng '''[[Cystadleuaeth Junior Eurovision|Nghystadleuaeth Junior Eurovision]]''' i'w gynnal yn [[Minsk]], [[Belarus]]. Y darlledwr [[S4C]] sy'n gyfrifol am gymryd rhan yn y gystadleuaeth.<ref>{{Cite web|url=https://junioreurovision.cymru/home/|title=Chwilio am Seren|website=junioreurovision.cymru|publisher=S4C|date=9 Mai 2018|accessdate=9 Mai 2018}}</ref> Dewiswyd y cystadleuydd fydd yn cynrychioli Cymru drwy glyweliadau a ddangoswyd mewn cyfres o dair rhaglen deledu ''Chwilio am Seren''.<ref>{{cite web|last1=Granger|first1=Anthony|title=Wales: Debuts in the Junior Eurovision Song Contest|url=https://eurovoix.com/2018/05/09/wales-debuts-in-the-junior-eurovision-song-contest/|publisher=Eurovoix|date=9 Mai 2018|accessdate=10 Mai 2018}}</ref> Enillydd y gyfres ar 9 Hydref oedd Manw o Rostryfan gyda'r gân "Berta" a ysgrifennwyd gan [[Yws Gwynedd]].<ref>{{cite web|url=https://www.s4c.cymru/c_press_level2.shtml?id=4175|title=Manw yw Enillydd Chwilio am Seren Junior Eurovision|publisher=S4C Press|date=9 Hydref 2018|accessdate=10 Hydref 2018}}</ref> Daeth Cymru yn olaf yn y gystadleuaeth gyda 29 pwynt.<ref>{{dyf newyddion|url=https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/533998-siom-manw-minsk|teitl=Siom i Manw yn Minsk|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad=25 Tachwedd 2018}}</ref>
 
Bu Cymru yn cymeryd rhan yn y gystadleuaeth o'r blaen fel rhan o'r [[Deyrnas Unedig]] rhwng 2003 a 2005 drwy rwydwaith [[ITV]]. Dangosodd S4C ddiddordeb mewn cystadlu yng ngystadleuaeth 2008 yn [[Limassol]], [[Cyprus]], ond penderfynodd peidio gwneud yn y diwedd.<ref>{{cite web|url=http://esctoday.com/11163/junior_eurovision_2008_united_kingdom_to_return_to_jesc/|title=Junior Eurovision 2008: United Kingdom to return to JESC?|last=Kuipers|first=Michael|date=20 Ebrill 2008|publisher=''ESCToday''|accessdate=9 Mehefin 2009}}</ref>