Ted Breeze Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 13:
Yna cychwynodd ar ei yrfa fel athro, gan ddechrau am ychydig yn Ysgol Ramadeg Ffestiniog, cyn symud i ysgol gynradd [[Trawsfynydd]] am ddwy neu dair blynedd. Oddi yno symudodd i Ysgol y Bechgyn, Maenofferen; ac yna, ym 1963, i ysgol gynradd y Manod. Yno y bu nes iddo ymddeol, yn gynnar, tua 1983. Priododd ag Anwen yng nghapel y Wesleaid, Talsarnau ym 1974 a symudasant i fyw i [[Llandecwyn|Landecwyn]], ger [[Talsarnau]].
 
Roedd Ted yn un o naturiaethwyr amlycaf Cymru gan ymddangos yn gyson ar y cyfryngau. Roedd hefyd yn adarydd, ffotograffydd, darlithydd ac awdur. Roedd yn aelod o banel rhaglen [[BBC Radio Cymru]] ''Seiat Byd Natur'' a chyfrannodd i nifer o raglenni teledu.
 
Yn dilyn ei farwolaeth yn 68 mlwydd oedd, daeth criw o'i ffrindiau ynghyd a phenderfynu sefydlu Cymdeithas Ted Breeze Jones, er budd adar a bywyd gwyllt er cof amdano ac mewn gwerthfawrogiad o'i gyfraniad i fyd natur.<ref name="cymted"/>