John Williams (cerddor): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
 
==Cefndir==
Ganwyd o yn [[Tal-y-bont, Bangor|Nhal-y-bont]], ger [[Bangor]], yn fab i Thomas Williams, llifiwr coed. Dysgodd elfennau o gerddoriaeth yn ysgol Robert Williams, Carneddi, [[Llanllechid]]. Pan oedd yn 25 aeth i [[Lerpwl]], lle cafodd gyfarwyddyd pellach mewn cerddoriaeth gan Thomas Woodward; Dysgodd rhywfaint o [[Hebraeg]] hefyd. Cafodd swydd yn swyddfeydd cwmni nwy Lerpwl a daeth yn Brif Ysgrifennydd yr cwmni yn y pen draw.<ref>[https://bywgraffiadur.cymru/article/c-WILL-JOH-1814 Griffith, R. D., (1953). WILLIAMS, JOHN (‘Gorfyniawc o Arfon’; 1814 - 1878), cerddor. ''Y Bywgraffiadur Cymreig''.] Adferwyd 9 Tachwedd 2019</ref>
 
Yn [[1847]] dechreuodd gyhoeddi ''Y Canrhodydd Cymreig'', mewn rhannau, ond oherwydd trwbl argraffu dim ond pedair rhan gafodd ei argraffu. Yn yr un flwyddyn cyhoeddodd Gramadeg Cerddorol, ac yn y diwedd aeth yn golled ariannol iddo. Yn [[1849]] trefnodd rifyn newydd o Gramadeg Cerddoriaeth (John Mills). Ysgrifennodd erthyglau ar gerddoriaeth ar gyfer [[Y Gwyddoniadur Cymreig]], a chyfansoddodd neu drefnodd emynau ar gyfer ''Telyn Seion'' (R. Beynon), ar gyfer [[Seren Gomer]], ac ar gyfer rhai casgliadau a gyhoeddwyd gan Richard Mills. Bu'n feirniadu mewn amryw o wyliau cerddorol ac yn eisteddfod genedlaethol Caernarfon yn [[1862]].
 
==Ffynonellau==
*M. O. Jones, ''Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig'' (1890);
*''Y Cylchgrawn'', 1851;
*''Y Cerddor'', Mehefin 1893.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Rheoli awdurdod}}
 
{{DEFAULTSORT:Williams, John}}
[[Categori:Cerddorion Cymreig]]
[[Categori:Genedigaethau 1814]]
[[Categori:Marwolaethau 1878]]
[[Categori:Cerddorion Cymreig]]
[[Categori:Prosiect Wicipobl]]
[[Categori:Prosiect Wici Môn]]