Y Gambia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
gwiro ac ehangu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu eto
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 3:
Gwlad fechan ar arfordir [[Gorllewin Affrica]] yw '''Y Gambia''' ('''Gweriniaeth y Gambia''' yn swyddogol). Mae'r Gambia wedi'i hamgylchu yn gyfangwbl gan [[Senegal]] a hi yw'r wlad leiaf ar dir mawr Affrica.<ref name="Hoare">Hoare, Ben. (2002) ''The Kingfisher A-Z Encyclopedia'', Kingfisher Publications. tud. 11. {{ISBN|0-7534-5569-2}}.</ref> Llain o dir ar hyd glannau [[Afon Gambia]] yw'r wlad; afon a roddodd ei henw i'r wlad. Mae'r Gambia wedi'i hamgylchynu gan [[Senegal]], heblaw am ei harfordir gorllewinol sy'n ffinio ar [[Cefnfor yr Iwerydd|Gefnfor yr Iwerydd]]. [[Arwynebedd]] y wlad yw 10,689km² ac mae ei phoblogaeth oddeutu {{wikidata|properties|qualifier|references|normal+|best|Q1005|P1082|P585}}.
 
[[Banjul]] yw prifddinas Gambia a hi yw ardal fetropolitan fwyaf y wlad.<ref>{{Cite web|url=https://www.britannica.com/place/Banjul|title=Banjul &#124; national capital, The Gambia|website=Encyclopedia Britannica|access-date=7 Ebrill 2020}}</ref> Ffermio, pysgota a [[twristiaeth|thwristiaeth]] sy'n dominyddu economi'r Gambia. Yn 2015, roedd 48.6% o'r boblogaeth yn byw mewn tlodi. Mewn ardaloedd gwledig, mae tlodi hyd yn oed gryn dipyn yn uwch: 70%.
 
Mae'r Gambia yn debyg i lawer o genhedloedd eraill yng Ngorllewin Affrica yn y [[Caethwasiaeth|fasnach gaethweision]], a oedd y ffactor allweddol wrth sefydlu a chadw cytref ar Afon Gambia, yn gyntaf gan [[Portiwgal|Bortiwgal]], pan gelwid yr ardal yn "A Gâmbia". Yn ddiweddarach, ar 25 Mai 1765, gwnaed y Gambia yn rhan o'r [[Ymerodraeth Brydeinig]] pan gymerodd lywodraeth 'Prydain Far' reolaeth ohoni'n ffurfiol, gan sefydlu 'Gwladfa ac Amddiffynfa Gambia' (''Gambia Colony and Protectorate'').
 
Ym 1965, enillodd y Gambia [[annibyniaeth]] o dan arweinyddiaeth [[Dawda Jawara]], a fu'n arweinydd ar y wlad nes i Yahya Jammeh gipio grym mewn coup di-drais yn 1994. Daeth Adama Barrow yn drydydd arlywydd Gambia yn Ionawr 2017, ar ôl trechu Jammeh yn etholiadau Rhagfyr 2016.<ref name=Wiseman>Wiseman, John A. (2004) [https://books.google.com/books?id=jj4J-AXGDaQC&lpg=PA456 Africa South of the Sahara 2004 (33rd edition): The Gambia: Recent History], Europa Publications Ltd. p. 456.</ref> Derbyniodd Jammeh canlyniad yr etholiad, i ddechrau, yna gwrthododd eu derbyn, a sbardunodd argyfwng cyfansoddiadol ac ymyrraeth filwrol gan 'Gymuned Economaidd Gwladwriaethau Gorllewin Affrica', gan arwain at alltudiaeth Jammeh.<ref>{{Cite news|url=https://www.theguardian.com/world/2017/jan/21/anxious-gambians-await-former-president-yahya-jammeh-departure|title=Yahya Jammeh leaves the Gambia after 22 years of rule|last=Maclean|first=Ruth|date=21 January 2017|work=The Guardian|access-date=17 Mai 2017|language=en-GB|issn=0261-3077|archive-url=https://web.archive.org/web/20170516194615/https://www.theguardian.com/world/2017/jan/21/anxious-gambians-await-former-president-yahya-jammeh-departure|archive-date=16 Mai 2017|url-status=live|df=dmy-all}}</ref><ref name="Agrees">{{Cite web|url=http://www.aljazeera.com/news/2017/01/gambia-yahya-jammeh-agrees-step-170120184330091.html|title=Gambia's Yayah Jammeh confirms he will step down|date=20 Ionawr 2017|website=Al Jazeera|access-date=21 Ionawr 2017|archive-url=https://web.archive.org/web/20170121003151/http://www.aljazeera.com/news/2017/01/gambia-yahya-jammeh-agrees-step-170120184330091.html|archive-date=21 Ionawr 2017|url-status=live|df=dmy-all}}</ref>
 
==Cyfeiriadau==