Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hebraeg"

Ychwanegwyd 77 beit ,  blwyddyn yn ôl
Rescuing 0 sources and tagging 1 as dead.) #IABot (v2.0.8
No edit summary
(Rescuing 0 sources and tagging 1 as dead.) #IABot (v2.0.8)
Er mai'r mwyaf amlwg ydyw hi, un ymhlith nifer o ieithoedd Iddewig yw Hebraeg. Ymhlith y lleill y mae [[Iddew-Almaeneg]] neu Yiddish-Daitsch a [[Ladino]] (Sbaeneg Iddewig). Cafodd y rhain eu defnyddio gan wahanol gymunedau Iddewig tra bu Hebraeg llafar yn farw, ond crebachu fu eu hanes yn sgil yr adfywiad yn nefnydd yr Hebraeg, gan adael lleiafrifoedd bychain iawn o siaradwyr yr ieithoedd hyn, os o gwbl.
 
Un o wyrthiau ieithyddol yr 20g oedd adfywiad Hebraeg, na bu'n iaith gyntaf i neb ers canrifoedd. Mae mewnfudwyr i [[Israel]], o [[Ewrop]], [[Unol Daleithiau America]], yr hen [[Undeb Sofietaidd]] ac [[Affrica]], er enghraifft yn cael eu trochi yn yr Hebraeg trwy gyrsiau [[Wlpan]]. Mae llyfr gan [[Norman Berdichevsky]], 'Modern hebrew: The Past Present and Future of a Revitalized Language' yn cyfeirio'n fyr at ddylanwad y mudiad Hebraeg ar y Gymraeg.<ref>[http://www.frontpagemag.com/2014/jamie-glazov/modern-hebrew-the-past-and-future-of-a-revitalized-language/ www.frontpagemag.com;]{{Dolen marw|date=February 2021 |bot=InternetArchiveBot |fix-attempted=yes }} adalwyd 26 Awst 2014</ref>
 
Ysgrifennir Hebraeg yn ei [[gwyddor Hebraeg|gwyddor]] ei hun, o'r dde i'r chwith. Mae 22 cymeriad yn yr wyddor, pob un yn [[cytsain|gytsain]]. Dynodir [[llafariad|llafariaid]] gan system o nodau, ond fel arfer dim ond mewn cyhoeddiadau i blant a dysgwyr y'u defnyddir.