Pelagius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 18:
Un o'i ddisgyblion ysbrydol oedd yr awdur a adweinir fel [[Y Brython Sisilaidd]]. Ysgrifennodd gyfres o lithiau radicalaidd yn dwyn y teitl ''De Divitis'' ("Ynghylch y Goludog"), llithiau a leisiodd gefnogaeth i'r blaid radicalaidd ymhlith dilynwyr Pelagius. Ceir ynddynt syniadau herfeiddiol iawn, am greu cymdeithas gwbl gyfartal gydag eiddo yn cael ei rhannu gan bawb. Ei ebychiad oedd ''Tolle divitem"'' ("I lawr â'r goludog!").
Mae'r dystiolaeth yn gymysg am ddylanwad Pelagiaeth yn y Brydain ôl-Rufeinig a'r Gymru gynnar. Yn ôl traddodiad, ymwelodd Sant [[Garmon]] (Germanus) a oedd yn Esgob Auxerra â Phrydain i ymladd dylanwad 'Pelagiaeth' gyda Sant Lupus Esgob Troyes; awgryma hynny fod dilynwyr Pelagius yn niferus yno.
Yn ddiweddar mae Ali Bonner wedi dadlau mai myth yw Pelagiaeth a grëwyd er mwyn creu uniongrededd i'r eglwys yn y 5g. Dywed hi i 'Belagiaeth' gynnwys camddehongliadau twyllodrus o'r hyn roedd Pelagius yn ei ddysgu, ac mewn gwirionedd ni fyddai Pelagius yn credu'r hyn a elwir yn 'Belagiaeth'.<ref>{{Cite book|title=The Myth of Pelagianism|last=Bonner|first=Ali|publisher=Oxford University Press|year=2018|isbn=9780197266397|location=Oxford|pages=x-xvi}}</ref>
|