Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ieithyddiaeth"

Ychwanegwyd 147 beit ,  1 mis yn ôl
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
(Corrigiu gramática)
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) iOS app edit
(Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8)
 
 
== Amcanion sylfaenol ac ymraniadau pwysig ==
Prif amcan ieithyddiaeth fodern yw disgrifio ac egluro natur iaith. Golyga hyn, uwchlaw popeth, ddod i ddealltwriaeth o'r hyn sydd yn gyffredin i bob iaith, yr hyn sydd yn amrywio rhwng ieithoedd, a'r modd mae pobl yn dysgu ieithoedd (yn enwedig eu mamieithoedd). Gall pob bod dynol (heblaw am rai achosion patholegol) gyrraedd cymhwysedd ym mha bynnag iaith a siaredir (neu arwyddir) o'i hamgylch yn ystod plentyndod, heb angen cyfarwyddant uniongyrchol neu ymwybodol. Er y gall anifeiliaid eraill ddysgu systemau cyfathrebu eu hunain, ni lwyddant i ddysgu iaith ddynol yn yr un modd. Tybia ieithyddion felly mai potensial cynhenid yw'r gallu i ddysgu a defnyddio iaith, yn debyg i'r gallu i gerdded. Anghytunir fodd bynnag ynglŷn ag ehangder y potensial hwn a'i gyfyngiad i iaith yn unig. Cred rhai fod nifer helaeth o osodiadau haniaethol ieithyddol wedi eu hamgodio yn yr [[ymennydd]]; cred eraill mai cynnyrch gwybyddiaeth gyffredinol ddynol yw iaith. Cytunir serch hynny nad oes gwahaniaethau genetig cryf tu ôl i'r gwahaniaethau ieithyddol a fodolant: gall unrhyw blentyn iach ddysgu unrhyw iaith ddynol a'i hamgylchyna, pa bynnag gefndir teuluol neu ethnig sydd ganddo.<ref>Serch hynny, awgryma ymchwil diweddar y gall fiasau genetig gwan, dros nifer o genedlaethau, ddylanwadu ar esblygiad iaith, yn dilyn at ddosbarthiad anddamweiniol o rai nodweddion ieithyddol ar draws y byd. ([http://www.pnas.org/cgi/content/abstract/0610848104v1 Dediu, D. & Ladd, D.R. (2007). Linguistic tone is related to the population frequency of the adaptive haplogroups of two brain size genes, ASPM and Microcephalin, PNAS 104:10944-10949]; crynodeb ar gael [http://www.ling.ed.ac.uk/~s0340638/tonegenes/tonegenessummary.html yma] {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20080616123034/http://www.ling.ed.ac.uk/~s0340638/tonegenes/tonegenessummary.html |date=2008-06-16 }})</ref>
 
Datblygodd ieithyddiaeth yr 20g i fod yn "[[strwythuriaeth]]ol" gan ei bod yn trin iaith fel system gymhleth na chaiff elfen ohoni ystyr neu hunaniaeth ond mewn perthynas ag elfennau eraill y system; dechreuodd y ddealltwriaeth hon o iaith efo gwaith [[Ferdinand de Saussure]] ddiwedd y 19g a ddechrau'r ugeinfed. Dominyddwyd ieithyddiaeth ail hanner yr 20g gan theori [[Gramadeg cynhyrchiol]], sydd yn dilyn gwaith [[Noam Chomsky]], a etifeddodd lawer gan y traddodiad strwythuriaethol (er nad ydyw yn hollol strwythuriaethol yn ystyr llawn Saussure). Mae gramadeg cynhyrchiol yn honni y genir bodau dynol efo gwybodaeth gymhleth ieithyddol a rheola'n gyfyng y broses o ddysgu iaith, neu ieithoedd, ym mhlentyndod. Mae'r theori yn "fodiwlaethol" gan y honna fod y wybodaeth hon yn benodol ieithyddol — fe fodola felly fodiwl ieithyddol yn yr ymennydd a elwir yn "ddyfais caffaeliad iaith" — yn hytrach na fod yn gyffredin i wybyddiaeth ddynol. Parha gramadeg gynhyrchiol i ddominyddu'r ddisgyblaeth ddechrau'r unfed ganrif ar hugain; serch hynny, mae theorïau ieithyddol eraill, rhai ohonynt yn anfodiwlaethol, wedi ennill poblogaeth dros y degawdau diwethaf — mae [[ieithyddiaeth wybyddiaethol]] yn enghraifft amlwg a chymharol lwyddiannus.