Jack Jenkins: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B nn
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 8:
 
== Gyrfa rygbi ==
Chwaraeodd Jenkins rygbi yn Ysgol Long Ashton i ddechrau, a byddai'n cynrychioli timau lleol Aberpennar a Threcelyn yn ddiweddarach. Erbyn 1901 roedd yn chwarae i dîm rygbi dosbarth cyntaf Casnewydd, gan ymddangos i'r tîm cyntaf dros gyfnod o chwe thymor gan wneud 61 ymddangosiad. <ref>[http://www.blackandambers.co.uk/Personnel.aspx?pr=106741 Jack Jenkins] {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20110617060454/http://www.blackandambers.co.uk/Personnel.aspx?pr=106741 |date=2011-06-17 }} blackandambers.co.uk</ref> Yn ystod y cyfnod hwn treuliodd Jenkins lawer o'i amser yn Lloegr, a daeth yn aelod rheolaidd o dîm alltud Cymry Llundain, bu hefyd yn chware i dimau rygbi Rosslyn Park a Middlesex County. Ym 1905, wynebodd Jenkins ei wrthwynebwyr rhyngwladol cyntaf, fel rhan o dîm Middlesex i wynebu'r [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Seland Newydd|Crysau Duon]] <ref name="Jenkins81">Jenkins (1991), tud 81.</ref> yn Stamford Bridge, yn ystod taith dramor gyntaf Seland Newydd. Collodd Middlesex y gêm yn drwm, 34-0.
 
Yn ystod tymor 1906-1907, bu Jenkins yn wynebu tîm teithiol [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol De Affrica|De Affrica]] ar dri achlysur. Yn y cyfarfod cyntaf, roedd Jenkins yn chwarae i Middlesex County, gan golli 9-0 i'r Springboks yn Richmond. Ar 22 Tachwedd 1906, daeth Jenkins i Sir Fynwy wynebu Morgannwg mewn treial Cymreig ar gyfer y gêm ryngwladol rhwng Cymru a De Affrica. <ref name="Billot36-37">Billot (1974), tud 36-37.</ref> Dyfarnwyd pedwar cap newydd gan dîm Cymru, sef Jenkins, Dick Thomas o Aberpennar, John Dyke o Benarth a [[Johnny Williams|Johnnie Williams]] o Gaerdydd. Yn y treial, o'r capiau newydd, dim ond Williams a wnaeth argraff fawr, nid oedd yr un o'r tri chwaraewr arall yn dangos gallu mawr, ond roeddent yn 'rhagori ar unrhyw un o'u cystadleuwyr heb eu capio'. <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/4170090|title=New Welsh Caps - Evening Express|date=1906-11-24|accessdate=2019-07-22|publisher=Walter Alfred Pearce}}</ref> Ar 1 Rhagfyr 1906 enillodd Jenkins ei unig gap pan chwaraeodd ar faes San Helen Abertawe gan wynebu'r Springboks. Enillodd De Affrica'r gêm yn gyfforddus, gyda llawer o'r bai am y golled yn cael ei rhoi ar y chwaraewyr blaen. Cafodd Jenkins a Williams eu cyhuddo o 'fethu sgrymio'. <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/4097666|title=LIEUT COLONEL J C JENKINS - The Cambria Daily Leader|date=1914-10-17|accessdate=2019-07-22|publisher=Frederick Wicks}}</ref>