Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "John Griffith (peiriannydd)"

Rescuing 2 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
(Rescuing 2 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8)
Peiriannydd sifil a [[gwleidydd]] a aned yng [[Nghymru]] oedd Syr '''John Purser Griffith''' ([[5 Hydref]] [[1848]] – [[21 Hydref]] [[1938]]).
 
Roedd yn fab i'r gweinidog [[William Griffith]] (1801–1881). Addysgwyd John Griffith yng [[Coleg y Drindod, Dulyn|Ngholeg y Drindod, Dulyn]], ac enillodd drwydded mewn peirianneg sifil ym 1868.<ref>[{{Cite web |url=http://www.rds.ie/home/index.aspx?id=1698 |title=Cofiant Royal Dublin Society] |access-date=2017-11-27 |archive-date=2007-11-19 |archive-url=https://web.archive.org/web/20071119050240/http://www.rds.ie/home/index.aspx?id=1698 |url-status=dead }}</ref> Gwnaeth brentisiaeth dwy flynedd o dan Dr Bindon Blood Stoney, Prif Beiriannydd Porthladd [[Dulyn]], cyn gweithio fel cynorthwy-ydd i'r syrfëwr sir yn [[Swydd Antrim]]. Dychwelodd i Ddulyn yn 1871 at ei hen feistr Dr. Stoney i weithio fel cynorthwy-ydd, gan ddod yn Brif Beiriannydd ym 1898. Ymddeolodd ym 1913.
 
Bu'n gwasanaethu fel llywydd Sefydliad y Peirianwyr Sifil yn Iwerddon rhwng 1887 a 1889<ref>[{{Cite web |url=http://www.iei.ie/webpages/pagedetails.pasp?pageid=78&menuid=1 |title=ICEI past presidents] |access-date=2017-11-27 |archive-date=2007-11-19 |archive-url=https://web.archive.org/web/20071119165621/https://www.iei.ie/webpages/pagedetails.pasp?pageid=78&menuid=1 |url-status=dead }}</ref> ac yn  Sefydliad y Peirianwyr Sifil rhwng 1919 a 1920.<ref>Garth Watson, ''The Civils'' (Llundain: Thomas Telford, 1988), tud. 252</ref> Cafodd ei ethol yn Gomisiynydd Goleuadau Iwerddon yn 1913, a bu'n aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar Gamlesi a Dyfrffyrdd rhwng 1906 a 1911.
 
Yn 1922 etholwyd ef yn aelod o'r ''Seanad Éireann'', senedd [[Gwladwriaeth Rydd Iwerddon]], hyd nes iddo gael ei ddiddymu ym 1936.<ref>{{cite web|url=https://www.oireachtas.ie/en/members/member/John-Purser-Griffith.S.1922-12-06/|title=John Purser Griffith|work=Oireachtas Members Database|accessdate=16 Ionawr 2016}}</ref>