Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Silwriaid"

Ychwanegwyd 4 beit ,  15 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(ehangu)
BNo edit summary
Gorchfygwyd Caradog yn [[51]] yn nhiriogaeth yr Ordoficiaid, ond parhaodd y Silwriaid i ymladd yn erbyn y Rhufeiniaid. Dywedir i Ostorius ddatgan fod y llwyth mor beryglus nes byddai raid eu lladd i gyd neu eu halltudio. Ymosododd y Silwriaid ar gorff o filwyr Rhufeinig oedd yn adeiladu caerau yn eu tiriogaeth, a dim ond trwy ymdrech fawr y gallodd y Rhufeiniaid eu hachub. Dywedir i'r Silwriaid gymeryd Rhufeinwyr yn garcharorion a'u rhannu ymhlith llwythau cyfagos i greu cynghrair yn erbyn Rhufain.
 
Bu farw Ostorius yn annisgwyl yn [[52]] heb fod wedi concro'r Silwriaid. Wedi ei farwolaeth ef gallasant orchfygu [[Legio II Augusta|yr Ail Leng]], oedd yn cael ei harwain gan Gaius Manlius Valens, cyn i'r llywodraethwr newydd, [[Aulus Didius Gallus]], gyrraedd. Dim ond 25 mlynedd yn ddiweddarach, dan [[Sextus Julius Frontinus]], y gorchfygwyd y llwyth yn derfynol.
 
Prifddinas y Silwriaid yn y cyfnod Rhufeinig oedd Venta Silurum ([[Caerwent]] heddiw). Wedi'r cyfnod Rhufeinig daeth tiriogaeth y Silwriaid yn deyrnasoedd [[Teyrnas Gwent|Gwent]], [[Brycheiniog]], [[Gwynllwg]] a [[Teyrnas Morgannwg|Morgannwg]]. Enwyd y cyfnod [[Silwraidd]] mewn daeareg ar ôl y llwyth yma, gan i greigiau o'r cyfnod yma gael eu disgrifio gyntaf yn nhiriogaeth y llwyth.
37,236

golygiad