Afon Conwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 10:
Mae'n tarddu tua 1,550 troedfedd uwch lefel y môr yn [[Llyn Conwy]], sydd bellach yn gronfa dŵr, ar [[Y Migneint]]. Filltir i'r de o'r llyn mae'n rhedeg dan y B4407 ac yn troi i'r gogledd i ddilyn y ffordd fel ffrwd fach trwy weundir corsiog y Migneint cyn llifo trwy [[Ysbyty Ifan]].
 
O Ysbyty Ifan ymlaen mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng hen siroedd [[Sir Gaernarfon|Caernarfon]] a [[Sir Ddinbych|Dinbych]] am y rhan fwyaf o'i chwrs. Ger [[Pentrefoelas]] mae hi'n cwrdd â'r [[A5]] ac yn rhedeg heibio i erddi [[rhododendron]] y Foelas a thrwy chwm cul coediog rhwng y bryniau i'w [[aber|haber]] ag [[Afon Machno]], sy'n dod i mewn iddi o'r gorllewin o gyfeiriad [[Penmachno]]. Fymryn uwchlaw'r aber honno ceir rhaeadrau ar Afon Machno a mymryn islaw ar Afon Conwy ei hun mae: [[Rhaeadr y Graig Lwyd]] <ref>[http://llennatur.com/files/u1/Diogelu_Enwau_Lleoedd.pdf Gwefan Llên Natur] {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20160314051535/http://llennatur.com/files/u1/diogelu_enwau_lleoedd.pdf |date=2016-03-14 }}; awdur: Ieuan Wyn; adalwyd 07/12/2012</ref> yn gorwedd mewn ceunant werdd ddofn; mae ystol [[eog]]iaid yma i gynorthwyo'r eogiaid ar eu taith i fyny'r afon. Fymryn islaw eto ceir Ffos Noddyn (y ''Fairy Glen'' yn Saesneg) lle rhed yr afon trwy ceunant greigiog a choedwig [[pinwydd]] cyn derbyn dŵr [[Afon Lledr]] i'w llif.
 
Cyn cyrraedd pentref [[Betws-y-Coed]] mae [[Afon Llugwy]] yn ymuno â hi yn ogystal. [[Llyn yr Afanc]] yw'r enw ar y pwll mawr o ddŵr tawel tywyll ger aber y ddwy afon ac mae yna chwedl werin am yr anghenfil oedd yn byw yno a gafodd ei swyno allan o'r llyn gan eneth ifanc a'i llusgo i fyny'r dyffryn i Lyn Cwm Ffynnon Las, ger [[Dolwyddelan]]. Mae'r afon yn llifo wedyn dan bont haearn enwog [[Pont Waterloo]], sy'n cludo'r ffordd [[A5]] drosti.