Awdl enghreifftiol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Gweler hefyd: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
 
Llinell 4:
Yn wreiddiol, ''cân ar un mesur oedd awdl'',<ref name="ReferenceA">[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925</ref> ond dechreuodd y Gogynfeirdd hwyraf ganu ''teirawdl'' a ''phymawdl'', felly daeth '''awdl''' yn gyfystyr â cherdd ar fwy nag un mesur. Ers amser [[Beirdd yr Uchelwyr]], mae '''awdl''' wedi golygu cerdd ar fwy nag un o'r [[Pedwar mesur ar hugain|mesurau caeth traddodiadol]]. Mae '''awdl enghreifftiol''' yn cynnwys pob un o'r mesurau hyn, boed [[Pedwar mesur ar hugain#Mesurau Dafydd ab Edmwnd|ddosbarth Dafydd ab Edmwnd]] neu'r [[Pedwar mesur ar hugain#Yr Hen XXIV Mesur|hen fesurau]]
 
Yn amlach na pheidio, er gorchest yn unig y canwyd awdlau enghreifftiol fel mesur o fedrusrwydd a deheuigrwydd y [[bardd]] caeth wrth drin y mesurau traddodiadol. Cenid awdlau enghreifftiol yn aml gan feirdd ar eu prifiant er mwyn dangos bod ganddynt afael cadarn ar eu crefft.<ref>[{{Cite web |url=http://users.comlab.ox.ac.uk/geraint.jones/gwasg.aredig/cynghanedd/geirfa/#awdl_engreifftiol |title=Clywed Cynghanedd] |access-date=2010-07-24 |archive-date=2010-05-27 |archive-url=https://web.archive.org/web/20100527080742/http://users.comlab.ox.ac.uk/geraint.jones/gwasg.aredig/cynghanedd/geirfa/#awdl_engreifftiol |url-status=dead }}</ref>
 
Yn achlysurol, cyflwynir awdlau enghreifftiol ar gyfer cystadlaethau eisteddfodol, ond nid oes awdl enghreifftiol wedi dod i'r brig yng nghystadleuaeth [[Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol|Y Gadair]] yn yr [[Eisteddfod Genedlaethol]] hyd yn hyn.