C.P.D. Y Drenewydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Makenzis (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Rescuing 0 sources and tagging 2 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 27:
| socks2=FFFF00
}}
Clwb [[pêl-droed]] o'r [[Y Drenewydd|Drenewydd]], [[Powys]] ydy '''Clwb Pêl-droed Y Drenewydd''' ([[Saesneg]]: ''Newtown Association Football Club''). Mae'r clwb yn chwarae yn [[Uwch Gynghrair Cymru]], prif adran pêl-droed yng Nghymru ac maent wedi codi tlws [[Cwpan Cymru]] ar ddau achlysur; ym 1878-79 a 1894-95<ref name="hanes">{{cite web |url=http://www.newtownfc.co.uk/about/ |title=NewtownFC: History |published=NewtownFC }}{{Dolen marw|date=February 2021 |bot=InternetArchiveBot |fix-attempted=yes }}</ref>.
 
Maent yn chwarae eu gemau cartref ar [[Parc Latham|Barc Latham]], Y Drenewydd, maes sy'n dal uchafswm o 5,000 o dorf gyda 1,110 o seddi.
Llinell 34:
Mae'r clwb presennol yn deillio o uniad rhwng clybiau pêl-droed '''Newtown White Star''' a '''Newtown Excelsior''' yn ystod y 1870au. Ffurfiwyd Newtown White Star ym [[1875]] gan ddod yn aelod gwreiddiol o [[Cymdeithas Bêl-droed Cymru|Gymdeithas Bêl-droed Cymru]]<ref name="hanes" />. Chwaraeodd Excelsior a chlwb o'r enw '''Newtown''' yng nghystadleuaeth cyntaf [[Cwpan Cymru]] ym [[1877]]<ref>{{cite web |url=http://welshsoccerarchive.co.uk/welsh_cup.php?id=1 |title=Welsh Football Data Archive: Welsh Cup 1877-78 |publshed=Welsh Football Data Archive}}</ref> gyda gêm Y Drenewydd yn erbyn [[C.P.D. Derwyddon Cefn|Y Derwyddon]] ar [[13 Hydref]], 1877 y gêm gyntaf erioed yn hanes y gystadleuaeth<ref>{{cite web |url=http://www.faw.org.uk/news/FAW83928.ink |title=Chris and Kit make Welsh Cup Semi-Final Draw |published=faw.org.uk}}</ref>.
 
Ymunodd y clwb â chynghrairâ'r ''Combination League'' ym 1899-1900<ref>{{cite web |url=http://welshsoccerarchive.co.uk/leagues_the_combination.php?season_id=10 |title=Combination League 1899-1900 |published=Welsh Football Data Archive}}</ref> ond, ar ôl tymor yn unig, dychwelodd Y Drenewydd i chwarae mewn cynghreiriau lleol. Ar ôl y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] ymunodd Y Drenewydd â Chynghrair Canolbarth Cymru gan ennill y bencampwriaeth ym 1975–76, 1978–79, 1981–82, 1986–87 a 1987–88<ref>{{cite web |url=http://www.newtownfc.co.uk/about/honours-and-memberships.html |title=NewtownFC: Honours |published=NewtownFC }}{{Dolen marw|date=February 2021 |bot=InternetArchiveBot |fix-attempted=yes }}</ref>.
 
Ar sail eu pencampwriaethau yn y 1970au a'r 1980au sicrhaodd Y Drenewydd eu lle ym mhyramid pêl-droed Lloegr gan ymuno ag Adran 1 o'r ''HFS Loans League'' - tair rheng yn is na [[Cynghrair Lloegr|Chynghrair Lloegr]] - ynghŷd â chlybiau Cymreig eraill fel {{Fb tîm Bangor}}, {{Fb tîm Y Rhyl}}, [[C.P.D. Bae Colwyn|Bae Colwyn]] a [[C.P.D. Tref Caernarfon|Chaernarfon]], ond ym [[1992]] dychwelodd Y Drenewydd i Gymru er mwyn ymuno â chynghrair newydd cenedlaethol Cymru.