Camlas Llangollen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 6:
[[Camlas]] yng ngogledd-ddwyrain [[Cymru]] yw '''Camlas Llangollen''', sy'n cysylltu [[Llangollen]] a [[Nantwich]], yn [[Swydd Gaer]], [[Gogledd-orllewin Lloegr]], ac sy'n gangen o [[Camlas y Shropshire Union|Gamlas Undeb Swydd Amwythig]]. Hen enw Camlas Llangollen oedd '''Camlas Ellesmere'''. Mae’r gamlas yn mynd trwy [[Ellesmere]] a [[Whitchurch, Swydd Amwythig|Whitchurch]] ar ei ffordd o Langollen i [[Cyffordd Hurleston|Gyffordd Hurleston]], ei man cysylltu â’r Shropshire Union. Adeiladwyd y gamlas yn 19g gan [[Thomas Telford]] ac mae hi'n 44 milltir o hyd gyda 21 o lociau.<ref>[http://www.marinecruises.co.uk/llangollen-canal.htm Gwefan Marine Cruises]</ref><ref name="Gwefan waterways.org.uk">[https://www.waterways.org.uk/waterways/canals_rivers/llangollen_canal/llangollen_canal Gwefan waterways.org.uk]</ref>. Mae [[cyffordd Welsh Frankton]] yn gysylltiad gyda [[Camlas Drefaldwyn|Chamlas Drefaldwyn]], sydd wedi ailagor yn rhannol erbyn hyn.<ref>[https://canalrivertrust.org.uk/enjoy-the-waterways/canal-and-river-network/camlas-trefaldwyn Gwefan canalrivertrust.org.uk]</ref> Mae hefyd 3 cangen lai; chwarter milltir i Ellesmere (agor), i [[Prees]] (milltir a hanner wedi ailagor a dwy filltir heb ei hadfer) ac i [[Eglwyswen]] (chwarter milltir wedi ailagor, tri chwarter milltir sy heb ei hadfer hyd yn hyn).<ref name="Gwefan waterways.org.uk"/>
 
Pwrpas y gamlas roedd cludo [[glo]], [[bricsen|briciau]], [[calchfaen]]<ref>[{{Cite web |url=http://www.canalguide.co.uk/canals/britain_canal_llangollen.html |title=Gwefan canalguide] |access-date=2017-12-15 |archive-date=2017-12-19 |archive-url=https://web.archive.org/web/20171219043655/http://www.canalguide.co.uk/canals/britain_canal_llangollen.html |url-status=dead }}</ref> a [[haearn]] o ardal ddiwydiannol [[Rhiwabon]] i'r glannau a dinasoedd Lloegr. Hefyd, mae’r gamlas yn cario dŵr rhwng Raeadr Bwlch yr Oernant a Chamlas y Shropshire Union ac yn cario 50 miliwn liter i [[Swydd Gaer]] yn ddyddiol.<ref>[https://www.waterways.org.uk/waterways/canals_rivers/llangollen_canal/historical_information Tudalen hanes ar wefan waterways.org.uk]</ref>
 
Mae'r draphont gamlas, sef [[Traphont Pontcysyllte]], sy'n croesi dyffryn [[Afon Dyfrdwy|Dyfrdwy]] ger [[Cefn Mawr]], yn enwog iawn a cheir traphont camlas arall dros [[Afon Ceiriog]] ger [[Y Waun]], lle ceir twneli camlas hefyd. Mae'r gamlas yn cael ei dŵr o Raeadr Bwlch yr Oernant, rhaeadr artiffisial ar Afon Ddyfrdwy. Yn 2009, daeth 11 milltir o’r gamlas, rhwng Pont Gledrid a Rhaeadr [[Bwlch yr Oernant]], yn [[Safle Treftadaeth y Byd]]<ref>{{cite news|url=http://entertainment.timesonline.co.uk/tol/arts_and_entertainment/visual_arts/architecture_and_design/article6594604.ece|title=Unesco names Pontcysyllte aqueduct as UK's latest World Heritage site|date=28 Mehefin 2009|accessdate=12 Ionawr 2010|newspaper=The Times|location=London}}</ref>