Charles Watkin Williams-Wynn (1775–1850): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 19:
Ym 1806 fe'i penodwyd yn Is-ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref yn y Weinyddiaeth a arweiniwyd gan ei ewythr yr Arglwydd Grenville. Parhaodd yn y swydd hyd ddymchwel y llywodraeth y flwyddyn ganlynol. Roedd Williams-Wynn yn aelod gweithgar o'r Senedd ac yn cael ei ystyried yn awdurdod ar drefn Tŷ’r Cyffredin, gan hynny cafodd ei enwebu ar gyfer swydd y Llefarydd ym 1817, ond oherwydd nam ar ei leferydd awgrymodd rhai o'i wrthwynebwyr mai ''Squeaker'' byddai nid ''Speaker'' a chafodd ei orchfygu ar bleidlais gan Charles Manners Sutton.<ref>''WILLIAMS WYNN, Charles Watkin (1775–1850), of Langedwyn, Denb.'' yn History of Parliament online [http://www.historyofparliamentonline.org/volume/1790-1820/member/williams-wynn-charles-watkin-1775-1850] adalwyd 17 Mai 2015</ref>
 
Yn y 1810au roedd Williams-Wynn yn arweinydd grŵp o Aelodau Seneddol a geisiodd, yn aflwyddiannus, i sefydlu trydedd blaid yn Nhŷ'r Cyffredin o dan nawdd ei gefnder yr Arglwydd Buckingham. Wedi methiant yr ymgyrch i greu trydedd blaid ymunodd a'r Torïaid.<ref>The Defectors: A history of crossing the floor, Total Politics 2013 [http://www.totalpolitics.com/history/382892/the-defectors-a-history-of-crossing-the-floor.thtml] {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20151015010607/http://www.totalpolitics.com/history/382892/the-defectors-a-history-of-crossing-the-floor.thtml |date=2015-10-15 }} adalwyd 17 Mai 2015</ref>
 
Ym mis Ionawr 1822 cafodd Williams-Wynn ei dderbyn i'r Cyfrin Gyngor a'i benodi yn Llywydd y Bwrdd Rheoli, gyda sedd yng nghabinet yn llywodraeth Dorïaidd Iarll Lerpwl. Arhosodd yn y swydd hon yng ngweinyddiaethau [[George Canning]] a'r [[Frederick John Robinson, Is-Iarll 1af Goderich|Arglwydd Goderich]]. Pan ddaeth [[Arthur Wellesley, Dug 1af Wellington|Dug Wellington]] yn Brif Weinidog yn 1828, ni chafodd cynnig swydd yn y llywodraeth gan hynny fe ymunodd a'r Chwigiaid a phan ddaeth y blaid honno i rym o dan arweiniad yr [[Charles Grey, 2il Iarll Grey|Arglwydd Grey]] ym 1830 penodwyd Williams-Wynn yn Ysgrifennydd Ryfel, ond heb sedd yn y cabinet. Parhaodd yn y swydd hyd fis Ebrill 1831 ond ni chafodd cynnig unrhyw swydd arall yn llywodraeth y Chwigiaid. Yn 1834 dychwelodd y Torïaid i rym o dan [[Robert Peel|Syr Robert Peel]], a phenodwyd Williams-Wynn yn Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn. Syrthiodd llywodraeth Peel mis Ebrill 1835 ac ni phenodwyd Williams-Wynn i unrhyw swydd wedi hynny. Parhaodd i gynrychioli Maldwyn yn y Senedd hyd ei farwolaeth ym 1850, rhwng 1847-1850 roedd yn Dad Tŷ'r Cyffredin.