Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Egni llanw"

Ychwanegwyd 137 beit ,  2 fis yn ôl
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
(Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8)
Defnyddiwyd melinau llanw a thrai ers cyn yr [[Oesoedd Canol]] i droi offer mecanyddol ee maen melin i falu blawd. Adeiladwyd [[Melin Lanw Caeriw]] yn 1801 ond fe'i codwyd ar hen gaer o [[Oes Haearn]] a chrerir y pwll gan argae ar draws Afon Caeriw, drwy gau'r llifddorau pan fo'r llanw yn ei anterth (ar ei uchaf).. O dan y felin ei hun ceir dau lif-ddôr er mwyn gollwng y dŵr pan fo'r môr ar drai. Wrth i'r dŵr basio'r llifddorau hyn mae'n troi dwy olwyn ddŵr enfawr a hyn, yn ei dro'n troi olwynion cocos ac yn malu'r ŷd. Dyma'r unig felin lanw o'i bath yng Nghymru. Caewyd drysau'r felin yn 1937 ond yn 1972 dechreuwyd ei hadfer gan ei hagor fel arddangosfa ac oddi wefn ceir amgueddfa.
 
Yn 1966, roedd gorsaf pŵer llanw cyntaf y byd, sef ''Stankell vordredan ar Renk'' (Ffrangeg: ''Usine marémotrice de la Rance'') yn [[Llydaw]], wedi dechrau cynhyrchu trydan a gall gynhyrchu uchafswm o 240 MW<ref>{{Cite web|url=http://www.british-hydro.org/downloads/La%20Rance-BHA-Oct%202009.pdf|title=La Rance Tidal Power Plant|date=|access-date=|website=|last=|first=|archiveurl=https://web.archive.org/web/20170118141201/http://www.british-hydro.org/downloads/La%20Rance-BHA-Oct%202009.pdf|archivedate=2017-01-18|deadurl=|url-status=dead}}</ref>. Agorodd y 'Sihwa Lake Tidal Power Station' yn Ne Corea yn 2011, ac ar hyn o bryd yw'r orsaf pŵer llanw mwyaf y byd.
 
==Gweler hefyd==