Fodca: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
CommonsDelinker (sgwrs | cyfraniadau)
Yn dileu "Stolichnaya.jpg". Cafodd ei dileu oddi ar Gomin gan Taivo achos: Derivative of non-free content: c:Commons:Deletion requests/File:Stolichnaya.jpg.
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 1:
[[Diod feddwol]] sy'n tarddu o [[Rwsia]] yw '''fodca''' (Rwseg: ''водка'', ''vodka''). [[Diod]] ddi-liw ydyw, sy'n cael ei gwneud o [[grawn|rawn]] megis [[rhyg]] a [[gwenith]], neu [[tatws|datws]]. Caiff y ddiod ei distyllu, a weithiau gwneir hyn sawl tro.
 
Fel arfer mae gan fodca gynnwys alcohol o rhwng 35% a 50% yn ôl unedau cyfaint. Mae'r fodca [[Rwsia|Rwsaidd]], [[Lithiwania|Lithiwanaidd]] a [[Gwlad Pwyl|Pwylaidd]] yn 40% (80 prawf alcohol). Gellir priodoli hyn i safonau cynhyrchu fodca Rwsiaidd a gyflwynwyd gan [[Alexander III]] ym [[1894]].<ref>O waith ymchwil a wnaed gan y cemegwr Rwsaidd Dmitri Mendeleev</ref> Yn ôl yr Amgueddfa Fodca ym [[Moscow]], darganfu'r cemegwr Rwsaidd [[Dmitri Mendeleev]] (a oedd yn fwyaf adnabyddus am ei waith yn datblygu'r [[Tabl Cyfnodol]]) mai'r canran perffaith o alcohol yn ei farn ef oedd 38.<ref>[http://www.recipe4all.com/ingredient/vodka/ Recipes4all.com]. Adalwyd 19-09-2009</ref><ref>[http://www.wineglobe.com/ym-vangogh-so.html Wineglobe.com] {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20090426055416/http://www.wineglobe.com/ym-vangogh-so.html |date=2009-04-26 }} Adalwyd 19-09-2009</ref> Fodd bynnag, am fod [[gwirodydd]] yn cael eu trethu yn ôl canran yr alcohol a oedd ynddynt, aethpwyd a'r rhid i 40 er mwyn hwyluso'r gwaith trethu. Mae rhai llywodraethau wedi gosod lleiafswm cynnwys alcohol ar gyfer diodydd a elwir yn "fodca". Er enghraifft, dywed yr [[Undeb Ewropeaidd]] fod yn rhaid cael lleiafswm o 37.5% o alcohol yn ôl unedau cyfaint.<ref>[http://www.britannica.com/EBchecked/topic/631781/vodka Gwefan Britannica] Adalwyd 03-04-2009</ref>
 
Yn draddodiadol caiff fodca ei yfed ar ei ben ei hun yng ngwledydd [[Dwyrain Ewrop]]; deillia ei boblogrwydd mewn gwledydd eraill oherwydd ei addasrwydd ar gyfer [[coctêl]]s a diodydd cymysg eraill, fel y Bloody Mary, Screwdriver, Fodca Martini neu Fodca Tonic.