Frank Lloyd Wright: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Gwybodlen wicidata
Rescuing 2 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 9:
[[UDA|Americanwr]] o [[Wisconsin]] ydoedd, ond gŵr a'i wreiddiau'n ddwfn yng [[Cymru|Nghymru]]. Bu'n bensaer dros 500 o brosiectau gorffenedig, yn awdur dros 20 o lyfrau pensaerniol a chynllunydd dodrefn mwyaf yr 20g. Yn 1991 fe gyhoeddodd Cymdeithas Penseiri America mai ef oedd "the greatest American architect of all time".<ref>http://www.businessweek.com/bwdaily/dnflash/jul2004/nf20040728_3153_db078.htm</ref>
 
Ar ôl dod yn bensaer galwodd nifer o'i adeiladau yn "[[Taliesin]]" (yn ogystal a'i [[Taliesin (stiwdio)|gartref ei hun]]).<ref>[http://www.franklloydwright.org/fllwf_web_091104/taliesin.html Taliesin o wefan Sefydliad Frank Lloyd Wright]</ref><ref>[{{Cite web |url=http://www.taliesinpreservation.org/aboutus/faq.htm#TPI_FLLW_FDN |title=Taliesin ar wefan Taliesin Preservation Inc.] |access-date=2010-03-01 |archive-date=2010-03-29 |archive-url=https://web.archive.org/web/20100329192003/http://www.taliesinpreservation.org/aboutus/faq.htm#TPI_FLLW_FDN |url-status=dead }}</ref>
 
O'r cartref cyntaf gafodd ei gynllunio ganddo hyd at ei farwolaeth, creodd syniadau chwyldroadol megis pensaernïaeth organig (chwedl Fallingwater), a oedd yn pwysleisio y dylai'r adeilad ffitio i fewn yn naturiol i'r ardal mae ynddo. Creodd fathau gwahanol o eglwysi, swyddfeydd, ysgolion, gwestai ayb - yn ogystal a thu fewn i'r adeiladau hyn: y dodrefn a'r ffenestri er enghraifft. Sgwennodd dros ugain o lyfrau'n ymwneud â phensaernïaeth yn ystod ei oes ac roedd yn ddarlithydd poblogaidd iawn drwy America ac Ewrop. Roedd yn berson lliwgar hefyd ac roedd ei fywyd yn llenwi papurau'r oes: methiant dwy briodas a'r tân erchyll a gynnwyd yn fwriadol yn 1914 gan ddifrodi'r [[Taliesin (stiwdio)|Taliesin Studio]] - a lladd 7 o bobl.
Llinell 16:
 
== Y Dyddiau Cynnar ==
Ar Ragfyr y 7ed 1844, glaniodd ''The Remittance'' yn [[Efrog Newydd]] gyda theulu o Rydowen ger [[Llandysul]], De Cymru ar fwrdd llong: Richard a Mary (neu Mali) Lloyd-Jones a saith o blant. Un o'r plant oedd Anna. Roeddent yn gwbwl uniaith [[Gymraeg]] pan laniodd y cwch, yn ôl Jane, chwaer Anna.<ref>[{{Cite web |url=http://www.unitychapel.org/home_country.htm] |title=copi archif |access-date=2008-07-12 |archive-date=2005-12-28 |archive-url=https://web.archive.org/web/20051228212826/http://www.unitychapel.org/home_country.htm |url-status=dead }}</ref> Motto'r teulu oedd 'Y Gwir yn Erbyn y Byd', sef un o ddywediadau [[Iolo Morganwg]]. Diddorol yw nodi fod gan Iolo fab o'r enw [[Taliesin ab Iolo|Taliesin]].
 
Mewn lle o'r enw Ixonia, yn anialwch Wisconsin y cartrefodd y teulu yn gyntaf, ond fe symudo nhw i ddyffryn ger Spring Green, [[Wisconsin]] yn y 1860au. Rhwng [[1887]] a [[1917]] datblygodd dwy o'i chwiorydd, sef Jane ac Ellen, ysgol flaenllaw yn y cwm (a adnabyddid fel 'Dyffryn y Jonsiaid!); Hillside Home School; athrawes hefyd oedd Anna (Anna Lloyd Jones (1838/39 – 1923). Priododd a William Carey Wright (1825 – 1904) a chawsant blentyn o'r enw Frank Lincoln Wright ar yr 8ed o Fehefin, 1867. Yn 1881 gwahanodd y rhieni a newidiodd Frank ei enw i hen enw teulu ei fam: Lloyd. Mae dylanwad ei fam i'w weld yn gryf iawn ar Frank Lloyd Wright.