George Latham: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Rescuing 2 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 26:
==Gyrfa bêl-droed==
===Gyrfa clwb===
Dechreuodd Latham ei yrfa gyda ei glwb lleol, [[C.P.D. Y Drenewydd|Y Drenewydd]] ym 1897 cyn ymuno gyda [[Liverpool F.C.|Lerpwl]] ym 1902 a throi'n broffesiynol gyda'r clwb ym 1903<ref name="Whos Who">{{cite book| author=Gareth M. Davies ac Ian Garland | title=Who's Who of Welsh International Soccer Players | year=1991| |page=122 |isbn=1-872424-11-2}}</ref>. Bu rhaid iddo ddisgwyl hyd nes Ebrill 1905 cyn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb a dim ond 19 o gemau chwaraeodd yn ei gyfnod yn Anfield. Ym 1909, ymunodd â [[Southport F.C.|Southport Central]] yn y ''Lancashire Combination League'' gan ddod y chwaraewr cyntaf yn hanes y clwb i ennill cap rhyngwladol<ref>{{cite web |url=http://www.southportfc.net/uploads/pages/THE%20SOUTHPORT%20STORY.pdf |title=The Southport Story |work=Southport FC |type=pdf |access-date=2016-02-02 |archive-date=2012-03-23 |archive-url=https://web.archive.org/web/20120323024304/http://www.southportfc.net/uploads/pages/THE%20SOUTHPORT%20STORY.pdf |url-status=dead }}</ref>.
 
Ym 1910 ymunodd â [[Stoke City F.C.|Stoke]] gan chwarae wyth gwaith yn ystod tymor 1910-11<ref name="The Encyclopaedia of Stoke City">{{cite book|last=Matthews|first=Tony|title=The Encyclopaedia of Stoke City|year=1994|publisher=Lion Press|isbn=0-9524151-0-0}}</ref> cyn symud i [[C.P.D. Dinas Caerdydd|Gaerdydd]] lle roedd yn hyfforddwr i'r clwb tra'n gwneud ambell i ymddangosiad i'r tîm cyntaf. Roedd yn aelod o dîm Caerdydd enillodd [[Cwpan Cymru|Gwpan Cymru]] ym [[1912]] wrth drechu [[C.P.D. Pontypridd|Pontypridd]] mewn gêm ail chwarae<ref>{{cite web |url=http://welshsoccerarchive.co.uk/welshcup_final_detail.php?id=35 |title=Welsh Cup 1911-2 |work=Welsh Football Data Archive}}</ref>.
Llinell 39:
 
==Gyrfa milwrol==
Ar ôl gwsanaethu yn [[Ail Ryfel y Boer]], ymunodd Latham â 7ed Bataliwn ([[Sir Feirionnydd|Meirionnydd]] a [[Sir Drefaldwyn|Threfaldwyn]]) y [[Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig]] ar ddechrau'r [[Rhyfel Byd Cyntaf]]. Gwasanaethodd Latham yn Rhyfel y Boer ac fel swyddog yn y Fyddin Tiriogaethol cafodd ei alw i ymuno â'r 7th (Merioneth & Montgomery) Btn, Royal Welsh Fusiliers ar ddechrau'r Rhyfel Mawr<ref name="penmon">{{cite web |url=http://www.penmon.org/page61.htm |title=George Latham |work=Penmon.org |access-date=2016-02-02 |archive-date=2019-07-14 |archive-url=https://web.archive.org/web/20190714202128/http://www.penmon.org/page61.htm |url-status=dead }}</ref>. Roedd y bataliwn yn rhan o'r ymgyrch yn [[Brwydr Gallipoli|Gallipoli]] ym mis Awst [[1915]], cyn cael eu gyrru i'r [[Aifft|Yr Aifft]] i fod yn rhan o'r 53rd Welsh Division ym Mrwydr Romani ger [[Camlas Suez]].
 
Yn ystod [[Brwydr Cyntaf Gaza]] ym mis Mawrth [[1917]], cafodd Latham ei urddo â'r [[Croes Milwrol|Groes Filwrol]] am ei ddewrder wrth gipio bryn Ali Muntar rhag byddinoedd yr [[Ymerodraeth Otoman]]<ref>{{cite web |url=https://www.thegazette.co.uk/London/issue/30234/data.pdf |title=London Gazette |date=14 Awst 1917 |type=pdf}}</ref> a chafodd bar i'w Groes Milwrol yn ystod [[Ail Brwydr Gaza|Ail]] a [[Trydedd Brwydr Gaza|Thrydedd Brwydr Gaza]] pan lwyddodd y Bataliwn i gipio [[Beersheba]], [[Tell Khuweilfe]] a [[Jerusalem]]<ref>{{cite web |url=https://www.thegazette.co.uk/London/issue/30801/supplement/8447 |title=London Gazette |date=16 Gorffennaf 1918}}</ref>