Bertrand du Guesclin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Gwybodlen wicidata
ffynhonnell
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 7:
[[Image:Du Guesclin Dinan.jpg|bawd|dde|200px|Cerflun Bertrand du Guesclin yn [[Dinan]]]]
 
Uchelwr [[Llydaw|Llydewig]] a chadfridog [[Ffrainc|Ffrengig]] yn y [[Rhyfel Can Mlynedd]] oedd '''Bertrand du Guesclin''', [[Llydaweg]]: '''Beltram Gwesklin''' (c. 1320 - [[13 Gorffennaf]] [[1380]]). Adnabyddid ef fe;fel "Eryr Llydaw",<ref>Thomas Benfield Harbottle, ''Dictionary of Historical Allusions'' (Llundain: Swan Sonnenschein & Co, 1903), t. 82.</ref> ac roedd yn gyfaill i [[Owain Lawgoch]]. Llwyddodd i adennill y rhan fwyaf o Ffrainc o afael brenin [[Lloegr]].
 
Ganed Bertrand du Guesclin yn [[Broons]], ger [[Dinan]], yn Llydaw. Roedd ei deulu yn fân-uchelwyr Llydewig. Ar ddechrau ei yrfa, roedd yng ngwasanaeth [[Siarl o Blois]] yn [[Rhyfel Olyniaeth Llydaw]] (1341-1364). Gwnaed ef yn farchog yn 1354. Yn 1356-1357, daeth Du Guesclin i sylw'r [[Dauphin]] Siarl trwy amddiffyn dinas [[Roazhon]], oedd dan warchae gan y Saeson.
Llinell 14:
 
Yn 1366 a 1367, bu'n ymladd yn Sbaen; yn llwyddiannus yhn 166, ond cymerwyd ef yn garcharor eto yn 1367, gan orfodi Siarl V i dalu i'w ryddhau unwaith eto. Ail-ddechreuodd y rhyfel yn erbyn Lloegr yn 1369, a llwyddodd Du Guesclin i adfeddiannu [[Poitou]] a [[Saintonge]], a gyrru'r Saeson o Lydaw rhwng 1370 a 1374. Roedd wedi adfeddiannu'r rhan fwyaf o Ffrainc erbyn iddo farw tra ar ymgyrch yn [[Chateauneuf-de-Randon]] yn [[Languedoc]]. Claddwyd ef yn [[Saint-Denis, Seine-Saint-Denis|Saint-Denis]] gyda brenhinoedd Ffrainc.
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Rheoli awdurdod}}