Hanes Gruffudd ap Cynan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
 
Llinell 5:
 
==Hanes testunol==
Cafodd y fersiwn Lladin gwreiddiol, ''Vita Griffini Filii Conani'', ei ysgrifennu rywbryd yn ystod oes [[Owain Gwynedd]], olynydd Gruffudd ap Cynan. Credid hyd yn ddiweddar fod y testun hwnnw wedi ei golli, ond yn ddiweddar mae'r ysgolhaig Paul Russell wedi dangos fod y testun Lladin o Hanes Gruffudd ap Cynan a geir yn [[llawysgrif]] [[Peniarth]] 434E yn cadw'r testun Lladin gwreiddiol yn hytrach na bod yn gyfieithiad i'r Lladin o'r testun Cymraeg Canol ''Historia Gruffud vab Kenan'' [http://www.uwp.co.uk/book_desc/1893.html] {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20051031204433/http://www.uwp.co.uk/book_desc/1893.html |date=2005-10-31 }}. Ceir gwahaniaethau pwysig rhwng y testun gwreiddiol a'r cyfieithiad ohono i'r Gymraeg sy'n tasgu goleuni ar hanes a meddylfryd y cyfnod.
 
Gwnaed y trosiad Cymraeg a elwir yn ''Historia Gruffud vab Kenan'' rywbryd yn ystod hanner cyntaf y [[13g]]. Mae'r awdur yn anhysbys ond ymddengys ei fod yn glerigwr. Gan fod y fuchedd yn ymwneud ag un o dywysogion Gwynedd gellid cynnig ei bod wedi'i chyfansoddi mewn un o sefydliadau egwlysig y dywysogaeth, er enghraifft [[Priordy Penmon]].