Derek Boote: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Canwr ac actor o Gymro
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 11:31, 20 Chwefror 2021

Roedd Derek Boote yn ganwr ac actor Cymraeg (bu farw Tachwedd 1974).[1]

Daeth Boote o bentref y Star, ger Gaerwen ar Ynys Môn. Addysgwyd ef yn Ysgol Uwchradd Llangefni ac yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.

Gyrfa Adloniannol

Chwaraeodd Boote y gitâr a'r bas dwbl a chanu gyda'r darlledwr o Hywel Gwynfryn; yn ddiweddarach fe wnaethant ffurfio grŵp gyda'r cadw Endaf Emlyn. Cystadlodd Boote yn rhifyn 1971 o gystadleuaeth canu Cân i Gymru.

Perfformiodd Boote ochr yn ochr â'r ddeuawd boblogaidd Ryan a Ronnie (Ryan Davies a [Ronnie Williams]], gan chwarae'r cymeriad Nigel Wyn gwreiddiol ar eu sioe sgets. Ar ôl iddo farw, daeth Bryn Williams yn ei le. Ymddangosodd hefyd yn y rhaglen deledu Gymraeg Dau a Hanner.[2]

Bu hefyd iddo ymddangos ar gyfresi cerddoriaeth boblogaidd, The Siniging Barn (1969) a The Singing Barge (1974).[3]

Rhyddhaodd Boote record EP Byw'n Rhydd ar label Recordiau'r Dryw.[4]

Weithiau roedd Boote yn dysgu yn Ysgol Gyfun Llanhari, ac yn chwe troedfedd pedair modfedd (1.93m) o daldra roedd yn chwaraewr rygbi amatur brwd.

Marwolaeth

Bu farw Boote ym 1974 yng Nghas-gwent, yn dilyn damwain anniswgyl ac anffodus. Wrth ffilmio rhaglen i blant, fe aeth ei wisg ar dân ar ôl iddo ollwng lludw sigaréts arni, [5] a chafodd ei losgi’n ddifrifol.[5] and he was seriously burned.[6]

Disgograffi

  • Byw yn Rhydd, Recordiau'r Dryw, 1968.[7] Cynnwys y caneuon, Byw'n Rhydd, Yr Hyn Ydwyf Fi, San Miguel, Rwyn Mynd Fy Merch, Dagrau, Titrwm Tatrwm

Dolenni

Cyferiadau

  1. British Broadcasting Corporation (1976). BBC Handbook. British Broadcasting Corporation. t. 113.
  2. Great Britain. Parliament. House of Commons (1971). Sessional Papers. H.M. Stationery Office. t. 197.
  3. https://www.imdb.com/name/nm9842672/
  4. "Byw'n Rhydd". Discogs. Cyrchwyd 15 July 2020.
  5. 5.0 5.1 Gareth Price (12 January 2018). Broadcasters of BBC Wales. Y Lolfa. t. 202. ISBN 978-1-78461-535-2.
  6. John Davies (1994). Broadcasting and the BBC in Wales. University of Wales Press. t. 360. ISBN 978-0-7083-1273-5.
  7. https://www.discogs.com/Derek-Boote-Bywn-Rhydd/release/10663963