Morgan Maddox Morgan-Owen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Rescuing 1 sources and tagging 1 as dead.) #IABot (v2.0.8
 
Llinell 25:
 
==Bywyd Cynnar==
Cafodd Morgan-Owen ei eni yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] yr hynnaf o chwech o blant i Timothy Morgan-Owen, Arolygwr Ysgolion, ac Emma Maddox<ref>{{cite web |url=http://owen.cholerton.org/09_timothy_02.php |title=James Owen of Penrhos and his descendants |publisher=owen.cholerton.org |work=Owen Cholerton}}</ref>. Cafodd ei addysg yn Ysgol Colet, Y Rhyl, Ysgol Amwythig a [[Coleg Oriel, Rhydychen|Choleg Oriel, Rhydychen]] gan gynrychioli tîm pêl-droed [[Prifysgol Rhydychen]] yn eu gêm flynyddol yn erbyn [[Prifysgol Caergrawnt]] ar dair achlysur - ym 1897, 1898 a 1900 a sgoriodd y ddwy gôl yn y fuddugoliaeth 2-0 dros Caergrawnt ym 1900.<ref name="whoswho">{{cite book |title=Who's Who of Welsh International Soccer Players |last1= Davies |first1=Gareth M. |last2=Garland |first2=Ian |page=144 |publisher=Bridge Books |ISBN=1 872424 11 2 |date=1991}}</ref><ref>{{cite web |url=http://www.ouafc.com/varsity-matches/view/27/Varsity-Match-1899-1900-Oxford-2-0-Cambridge |title=Varsity Match 1899/1900 |work=ouafc.com }}{{Dolen marw|date=February 2021 |bot=InternetArchiveBot |fix-attempted=yes }}</ref>
 
==Gyrfa Bêl-droed==
Gwnaeth Morgan-Owen ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ym 1897 yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Iwerddon (1882–1950)|Iwerddon]] tra ym Mhrifysgol Rhydychen ac wedi gadael y Brifysgol, chwaraeodd i dîm amatur enwog [[Corinthian F.C.|Corinthian]]. Roedd yn gefnogwr brwd o'r ethos [[amatur]] ac ym 1906, pan gafwyd rhaniad yng [[Cymdeithas Bêl-droed Lloegr|Nghymdeithas Bêl-droed Lloegr]] dros chwaraewyr a chlybiau proffesiynol, roedd Morgan-Owen yn allweddol wrth ffurfio'r Gymdeithas Bêl-droed Amatur ([[Saesneg]]: ''The Amateur Football Association'')<ref name="whoswho" />.
 
Ym 1903, er cael ei ddewis i chwarae dros Gymru yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr|Lloegr]], penderfynnodd Morgan-Owen, a'i frawd [[Hugh Morgan-Owen]], oedd hefyd yn chwaraewr rhyngwladol, i chwarae i dîm yr Old Salopians yn erbyn yr Old Carthusians yn rownd derfynol Cwpan Arthur Dunn - cystadleuaeth i dimau cyn ddisgyblion Ysgolion Bonedd - ar yr un prynhawn<ref name="whoswho" /><ref>{{cite web |url=http://www.oldsalopianfc.com/pages/page_5978/history.aspx |title=History of the Old Salopian Football Club |work=Old Salopian FC |access-date=2015-08-02 |archive-date=2016-05-28 |archive-url=https://web.archive.org/web/20160528041143/http://www.oldsalopianfc.com/pages/page_5978/history.aspx |url-status=dead }}</ref>.
 
Teithiodd Morgan-Owen gyda thîm Corinthian i [[Hwngari]], [[Yr Almaen]], [[Bohemia]], [[Y Swistir]], [[Ffrainc]], [[Sbaen]], [[Canada]] a'r [[Unol Daleithiau America|Unol Daleithiau]] ac roedd yn gapten y clwb ar eu taith i [[Brasil|Frasil]] ym 1910<ref name="tours">{{cite web |url=http://www.corinthian-casuals.com/corinthian-tours.html |title=Corinthians - Taking the Beautiful Game Across the Globe |work=Corinthian-Casuals.com}}</ref>; taith welodd y clwb yn ysbrydoli gweithwyr rheilffordd yn [[Sao Paulo]] i sefydlu [[Sport Club Corinthians Paulista]]<ref>{{cite web |url=http://almanaque.folha.uol.com.br/esporte_5dez1976b.htm |title=No Bom Retiro, Em 1910, Começa esta História |language=[[Portwgaleg]]}}</ref>.