Carlwm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Blwch tacson | enw = Carlwm | delwedd = Mustela erminea upright.jpg | maint_delwedd = 250px | neges_delwedd = | regnum = Animalia | phylum = Chor...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 15:
}}
 
[[Mamal]] [[cigysol]] bach o deulu'r [[Mustelidae]] yw'r '''carlwm''' (''Mustela erminia''). Mae'n debyg i'r [[gwenci]] ond yn fwy, ac mae ganddo gynffon hirach â blaen du. Mae corff a phen y carlwncarlwm gwrywaidd tua 28–31&nbsp;cm (10–12 modfedd) o hyd; mae rhai'r fenyw yn 24–29 (9½–11½ modfedd); mae'r gynffon tua 9.5–14&nbsp;cm (3¾–5½ modfedd).<ref>[https://www.mammal.org.uk/species-hub/full-species-hub/discover-mammals/species-stoat/ "Stoat"], Gwefan The Mammal Society; adalwyd 19 Chwefror 2021</ref>
 
Mae'n byw mewn ffermdir, glaswelltir a choetir yn rhanbarthau gogleddol yn [[Ewrop]], [[Asia]] a [[Gogledd America]]. Mae'n gallu byw hyd at oddeutu 5 mlynedd, neu 6-8 oed yn eithriadol, ond fel arfer nid yw'n goroesi mwy nag 1–2 oed.
Llinell 23:
[[Delwedd:Mustela erminea winter cropped.jpg|bawd|chwith|250px|Carlwm yn ei gôt ffwr gwyn gaeafol]]
 
Yn yr haf, mae blew ei gefn a'i ben yn gochfrown ac mae ei fol yn wynliw hufen. Yn y hydref mae'n bwrw ei flew tywyll gyda'r canlyniad bod ganddo gôt welw yn y gaeaf. Yn y rhanbarthau mwyaf gogleddol, gall ei ffwr fod yn hollol wyn ar draws ei gorff cyfan, heblaw am y gynffon â blaen du. Yn y gwanwyn mae'n bwrw ei flew gwelw ac yn adennill ei gôt frown.
 
Gelwir côt wen aeafol y carlwm yn "ermin", ac yn draddodiadol mae masnach grwyn wedi ei gwerthfawrogi, yn enwedig i ddarparu'r deunydd ar gyfer gwisg seremonïol brenhinoedd, breninesau ac uchelwyr.