Pwll-coch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cabgym 'bawd' dwbwl a manion eraill, replaced: bedwaredd ganrif ar bymtheg → 19g (2) using AWB
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 14:
[[Delwedd:Chest tombs of Thomas and Jonas families at Llandaff.jpg|bawd|Beddi'r teuluoedd Thomas a Jonas yn Llandaf]]Hyd at ganol y 19g, nodweddid Pwll-coch gan fferm, tafarn (Tŷ Pwll Coch, a gaeodd yn 2012) ac ychydig o fythynnod. Yno hefyd yr oedd gweithdy'r teulu Jonas, seiri coed a seiri olwynion nodedig.<ref>'[http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/en/page/view/3329687/ART10 Glamorganshire: To be sold by auction]', ''[[The Cambrian]]'', 30 Tachwedd 1839.</ref> Roedd Elizabeth Jonas (1806–1865) yn wraig fusnes amlwg ac yn gefnogwr brwd i [[Eglwys Fethodistaidd Prydain Fawr|Fethodistiaeth Wesleaidd]] yn Nhrelái a Chaerdydd. Priododd â John Thomas (1804–1842), bragwr o Drelái. Ar ôl ei farwolaeth annhymig daliodd hi ati i redeg y Castle Brewery yng Nghaerdydd am dros ugain mlynedd. (Yn ddiweddarach, fe'i prynwyd gan gwmni Hancocks Brewery).<ref>Lesley Richmond a Alison Turton (gol.),[https://books.google.com/books?id=NB8NAQAAIAAJ&pg=PA167&dq=%22the+brewery,+crawshay%22&hl=en&sa=X&ei=lfq-U4qBH4bcOt3ngMgN&ved=0CB8Q6AEwAA#v=onepage&q=%22the%20brewery%2C%20crawshay%22&f=false ''The Brewing Industry: A Guide to Historical Records''], (Manchester, 1990), t. 167.</ref> Roedd yn noddwraig hael i'r achosion Wesleaidd Cymraeg yn Nhrelái a Chaerdydd.<ref>T. J. Hopkins, '[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1050541/1051785/67#?xywh=-2713%2C-194%2C7637%2C3875 Elizabeth Thomas, Glyn Teg Hall, Ely]', ''Bathafarn'', 20 (1965), 66–68.</ref> Mae Elizabeth wedi ei chladdu gyda'i gŵr a'i phlant ym mynwent [[Eglwys Gadeiriol Llandaf]]; mae bedd y teulu Jonas gerllaw.<ref>'Memorial inscriptions: Llandaff Cathedral', ''Cardiff Records'': volume 3 (1901), tt. 553-580. URL: http://www.british-history.ac.uk/report.aspx?compid=48178.</ref>
 
Yn 1865 agorwyd melin bapur ar dir rhwng y Pwll Coch yn afon Elái a [[Rheilffordd De Cymru]]. Ond fe diddymwyd y cwmni hwn yn 1875. Aeth y felin i ddwylo Samuel Evans a Thomas Owen (ewythr a hanner brawd [[Owen Owen]], y masnachwr enowog o [[Lerpwl]]).<ref>Alun Eurig Davies, '[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1277425/1283058/2#?xywh=-2978%2C-232%2C9107%2C4621 Paper-mills and paper-makers in Wales, 1700-1900]', ''Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru'', 15.1 (1967), 1–30.</ref> Wedi marwolaeth Evans ailffurfiwyd y cwmni dan yr enw Thomas Owen & Co. Daliwyd ati i gynyrchu papur ar y safle hyd at 2000.<ref>[http://www.coflein.gov.uk/cy/site/409876/details/ely-paper-millsely-paper-works-ely-cardiff Coflein: Ely Paper Mills; Ely Mills, Ely Paper Works, Ely, Cardiff].</ref> Mae ystâd eang o dai bellach yn cael ei chodi yno.<ref>[http://www.elymill.com/ The Mill] {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20190706094639/http://elymill.com/ |date=2019-07-06 }}.</ref>
 
Yn ystod y 1870au, agorodd Stephen Treseder (1834-1909) feithrinfa ym Mhwll-coch.<ref>Ray Desmond, ''[https://books.google.com/books/about/Dictionary_Of_British_And_Irish_Botantis.html?id=thmPzIltAV8C Dictionary Of British And Irish Botantists And Horticulturalists]'' (London, 1994), t. 691.</ref> Ei henw gwreiddiol oedd 'Ely Road Nursery' ond maes o law newidiwyd hynny i 'Pwll Coch Nurseries'. Byddai'r feithrinfa'n darparu planhigion ar gyfer nifer o ystadau lleol, gan gynnwys ystâd Ardalydd Bute yng [[Castell Caerdydd|Nghastell Caerdydd]].<ref>'Rural notes', ''The Leeds Mercury'', 25 Hydref 1890.</ref> Rhoddodd y blanhigfa ei henw i'r 'Pwll Coch Dahlia'.<ref>[http://www.dahliaworld.co.uk/directp.txt World Dahlia Directory].</ref>