Recordiau Peski: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Rescuing 6 sources and tagging 1 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 19:
Mae'r enw Peski yn deillio o'r gair 'pesgi', gair sy'n disgrifio bwydo neu dewhau anifail ffarm. Bathwyd yr enw yn 2002 gan y sylfaenwyr Garmon Gruffydd, Rhys Edwards a ffrind arall wrth gerdded ar dir [[Eglwys Tyddewi]] yn [[Sir Benfro]]. Unwaith oedden nhw fewn yn y gadeirlan, fe arwyddodd y tri'r llyfr gwestai ac fe anwyd Recordiau Peski.
 
Cynnyrch cyntaf Peski oedd albwm gyntaf Jakokoyak, ''Am Cyfan Dy Pethau Prydferth'' (2003), record o gerddoriaeth electronig arbrofol lo-fi gyda dylanwadau o gerddoriaeth gwerin seicadelig, weithiau'n cael ei alw'n folktronica. Cymerwyd teitl yr albwm o boster wedi ei gyfieithu'n wael ar waliau Undeb Myfyrwyr Caerdydd.<ref>[{{Cite web |url=http://www.peski.co.uk/english/jakokoyak/jakokoyak.htm |title=Peski Records]{{dead link|access-date=March 2016-03-24 |archive-date=2008-10-26 |archive-url=https://web.archive.org/web/20081026083443/http://www.peski.co.uk/english/jakokoyak/jakokoyak.htm |url-status=dead }}</ref>. Ar ôl i holl gopïau o'r albwm werthu allan yn y DU, fe'i hail-ryddhawyd yn Japan a chafodd groeso cynnes mewn cylchgronau fel [[Vogue (cylchgrawn)|Vogue Nippon]]. Yn dilyn sawl record arall, fe gefnogodd [[Jakokoyak]] y band [[Super Furry Animals]] ar eu taith fer o Japan ac fe wnaeth y llwyddiant yma ganiatáu Peski i fuddsoddi mewn artistiaid eraill
 
Dros y blynyddoedd nesaf, fe wnaeth y label ryddhau sawl record gan David Mysterious (enw go iawn Cai Strachan), Evils a Stitches (prosiect unigol Rhydian Dafydd o [[The Joy Formidable]]), cyn arwyddo'r band pop indi seicadelig o Aberystwyth [[Race Horses|Radio Luxembourg]] yn 2007, a oedd wedi datgan bwriad i ryddhau dau EP cyn symud ymlaen i label recordiau yn Llundain. Ar ôl bodloni'r cytundeb, fe aeth Radio Luxembourg ymlaen i arwyddo gyda [[Fantastic Plastic Records]] ac fe newidion eu henw yn 2009 i osgoi problemau cyfreithiol posib gyda gorsaf radio [[Radio Luxembourg]].<ref>[[Race Horses]]</ref>
 
Ryddhawyd record swyddogol cyntaf [[Cate Le Bon]] ar Peski yn 2008 gyda'r EP Cymraeg ''Edrych yn Llygaid Ceffyl Benthyg''.<ref>{{cite web|url=http://www.peski.co.uk/artist/42/cate-le-bon|title=Peski - About Cate Le Bon|publisher=Peski Records|access-date=2016-03-24|archive-date=2015-07-06|archive-url=https://web.archive.org/web/20150706184202/http://www.peski.co.uk/artist/42/cate-le-bon|url-status=dead}}</ref> Mae'r record yn cynnwys perfformiadau lleisiol gan [[Euros Childs]] ac [[Andy Votel]], a gynlluniodd waith celf y clawr feinyl hefyd.<ref>{{Cite web |url=http://www.peski.co.uk/release/367/peski009/edrych-yn-llygaid-ceffyl-benthyg |title=copi archif |access-date=2016-03-24 |archive-date=2015-06-30 |archive-url=https://web.archive.org/web/20150630084951/http://www.peski.co.uk/release/367/peski009/edrych-yn-llygaid-ceffyl-benthyg |url-status=dead }}</ref>
 
Yn 202, dechreuodd Peski weithio gyda R. Seiliog ac fe ryddhawyd ei EP cyntaf, "Shuffles".<ref>{{Cite web |url=http://www.peski.co.uk/release/485/peski018/shuffles-ep |title=copi archif |access-date=2016-03-24 |archive-date=2015-06-30 |archive-url=https://web.archive.org/web/20150630145235/http://www.peski.co.uk/release/485/peski018/shuffles-ep |url-status=dead }}</ref> Fe aeth R. Seiliog ymlaen i arwyddo cytundeb gyda label Turnstile.
 
Yn ystod y cyfnod yma, dechreuodd y label gynnal cyfres o nosweithiau chwedlonol 'Peski Nacht' ar lawr uchaf adeilad Jacobs Antiques yng Nghaerdydd. Roedd hwn yn gyfle i arddangos y gymuned gynyddol o artistiaid ar y label yn ogystal â dod ac artistiaid rhyngwladol dylanwadol i berfformio gyda nhw yng Nghaerdydd,<ref>{{Cite web |url=http://www.peski.co.uk/news/605/06-04-2013/p-e-s-k-i-n-c-h-t-0-0-3 |title=copi archif |access-date=2016-03-24 |archive-date=2015-06-30 |archive-url=https://web.archive.org/web/20150630184514/http://www.peski.co.uk/news/605/06-04-2013/p-e-s-k-i-n-c-h-t-0-0-3 |url-status=dead }}</ref> tebyg i [[R. Stevie Moore]], sy'n aml yn cael ei ystyried fel sefydlwr Recordio Cartref DIY, Lo-fi a Phop Indi.<ref>http://www.rsteviemoore.com/cd/meet2.html</ref>
 
Yn 2013, ryddhawyd cyfres o EPs gan [[Gwenno Saunders|Gwenno]] cyn rhyddhau ei albwm gyntaf ''Y Dydd Olaf'', yn Hydref 2014. Hwn fyddai'r albwm olaf i'w ryddhau ar y label. Gwnaeth yr albwm werthu allan yn gyflym ac yn dilyn taith o wledydd Prydain yn cefnogi [[Gruff Rhys]], arwyddodd Gwenno gytundeb recordio gyda label Heavenly Recordings.<ref>http://www.nme.com/news/the-pipettes/85280</ref> Mae Peski yn parhau i weithio gyda Gwenno fel ei rheolwr.
Llinell 34:
 
==CAM (Cam o'r Tywyllwch)==
Rhaglen radio wythnosol gan Peski yw "Cam o'r Tywyllwch" yn cyflwyno cerddoriaeth arbrofol ac avant-garde o Gymru a thu hwnt. Darlledwyd y rhaglen gyntaf ar 14 Chwefror 2013 a hwn oedd y sioe Gymraeg cyntaf ar [[Radio Cardiff]].<ref>{{Cite web |url=http://www.peski.co.uk/news/557/17-03-2013/our-new-show-radio-cardiff-cam-or-tywyllwch |title=copi archif |access-date=2016-03-24 |archive-date=2015-06-30 |archive-url=https://web.archive.org/web/20150630190209/http://www.peski.co.uk/news/557/17-03-2013/our-new-show-radio-cardiff-cam-or-tywyllwch |url-status=dead }}</ref> Cynhyrchwyd cyfres wyth rhan o "Cam O'r Tywyllwch" ar gyfer [[Resonance FM]] yr orsaf radio gelfyddydol Llundain, yn Ionawr 2014 gyda'r bwriad o hybu cerddoriaeth arbrofol o Gymru i gynulleidfa ehangach.<ref>http://resonancefm.com/archives/17334{{Dolen marw|date=February 2021 |bot=InternetArchiveBot |fix-attempted=yes }}</ref> Mae'r sioe yn gorffwys ar hyn o bryd.
 
Mae enw'r sioe yn deyrnged i'r casgliad cyntaf o gerddoriaeth amgen Cymraeg a ryddhawyd ar [[Recordiau Anhrefn]] yn 1985. Mae cerddoriaeth agoriadol y sioe hefyd yn gyfeiriad at un o'r esiamplau cyntaf o gerddoriaeth electronig Cymraeg - "Tros Y Gareg" gan John Baker, a recordiwyd yn 1970 yn y [[BBC Radiophonic Workshop]].<ref>http://www.planetskaro.org.uk/forums/threads/2982-The-BBC-Radiophonic-Workshop-Thread</ref>