Ysgyfaint: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Oergell (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 2:
Prif organau [[system resbiradu]]'r corff yw'r '''ysgyfaint''' (neu ar lafar: '''sgyfaint'''), sy'n galluogi [[bod dynol|pobl]] ac anifeiliaid eraill i [[anadl]]u. O fewn [[mamal]]iaid a [[fertebrat]]au eraill, lleolir dwy ran yr ysgyfaint ger yr [[asgwrn cefn]] - o boptu'r [[calon|galon]]. Eu pwrpas yw tynnu (neu 'echdynnu') [[ocsigen]] o'r [[Atmosffer y Ddaear|atmosffer]] a'i basio ymlaen i lif y gwaed yn y corff. AR yr un pryd caiff y [[carbon deuocsid]] ei ryddhau yn ôl i'r atmosffer; gellir disgrifio hyn fel proses o gyfnewid [[nwy]]on. Caiff y symudiadau sy'n galluogi i'r anadlu hyn ddigwydd ei reoli gan gyhyrau. Mewn llawer o anifeiliaid y prif gyhyr yw diaffram y thoracs. yr ysgyfaint hefyd sy'n galluogi anifeiliaid i wneud synnau gwahanol e.e. siarad, udo, mewian a brefu.
Mae gan fodau dynol ddwy ysgyfaint: y chwith a'r dde. yn Gymraeg defnyddir y gair '''ysgyfant''' weithiau am un rhan. Maent wedi eu lleoli yg ngwactod y thoracs yn y fron. Mae'r ysgyfaint dde yn fwy na'r chwith, gan fod yr ysgyfaint chwith yn rhannu lle gyda'r galon. Gyda'i gilydd mae'r ddwy ysgyfaint yn pwyso 1.3 [[cilogram|kg]].
O amgylch yr ysgyfaint ceir sach eisbilennol sy'n caniatáu i'r waliau mewnol a'r waliau allanol i lithro yn erbyn ei gilydd wrth i'r anifail anadlu heb fawr o [[ffrithiant]]. Mae'r sach yma nid yn unig yn cwmpasu'r ddwy ran ond hefyd yn rhannu pob ysgyfaint yn llabedau (''lobes''). Ceir 3 llabed yn y sgyfaint dde a dwy yn y sgyfaint chwith. Rhennir y llabedau hyn yn segmentau a llabedynnau (''lobules''). Daw cyflenwad unigryw o waed i'r ysgyfaint.
|