Mudiadau cymdeithasol LHDT: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up, replaced: 8fed ganrif → 8g using AWB
→‎top: Trwsio dolennau, replaced: ac hefyd → a hefyd using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Gay Rights demonstration, NYC 1976.jpg|bawd|dde|200px|Gorymdaith hawliau LHDT yn [[Dinas Efrog Newydd|Ninas Efrog Newydd]] yn 1976]]
Mae gan '''fudiadau cymdeithasol lesbiaid, hoywon, deurywiol a thrawsrywiol''' yr un nodau o sicrhau fod rhywioldeb a lleiafrifoedd rhyw yn cael eu derbyn. Mae gan bobl [[lesbiad]], [[hoyw]], [[deurywiol]] a [[thrawsrywiol]] (LHDT) draddodiad hir o ymgyrchu am yr hyn a elwir gan amlaf yn hawliau LHDT, ond cânt eu galw hefyd yn "hawliau hoyw" a "hawliau lesbiaid a hoywon". Gweithiodd nifer o gymunedau gyda'i gilydd, aca hefyd yn annibynnol o'i gilydd mewn amryw o ffyrdd gan gynnwys rhyddhad hoyw, ffeministiaeth lesbiaidd, y mudiad "queer" a gweithredu trawsrywiol. Nid oes un sefydliad yn unig sydd yn cynrychioli buddiannau a diddordebau pobl LHDT, er y gellir dadlau fod dau sefdyliad yn dod yn agos at wneud hynny; [[InterPride]] sy'n cydlynu a rhwydweithio digwyddiadau [[balchder hoyw]] yn fyd eang, a'r [[Comisiwn Rhyngwladol dros Hawliau Dynol Hoyw a Lesbiaid]] sy'n taclo diffyg hawliau dynol yn erbyn pobl LHDT a phobl â [[HIV]] a gweithiant gyda'r [[Cenhedloedd Unedig]]. Yn gyffredinol, fe'i hystyrir yn fudiad sy'n cynnwys holl elfennau a diddordebau'r gymuned LHDT.
 
Ym aml, dywedir mai'r nod ar gyfer pobl LHDT ydy cydraddoldeb cymdeithasol; mae rhai hefyd wedi ffocysu ar adeiladu [[cymuned hoyw|cymunedau LHDT]], neu barhau i weithio am agwedau mwy rhyddfrydol tuag at rywioldeb. Mae'r mudiadau LHDT a drefnir heddiw yn cynnwys ystod eang o weithredu gwleidyddol a gweithgarwch diwylliannol, megis lobïo a gorymdeithiau stryd; grŵpiau cymdeithasol, grŵpiau cymorth a digwyddiadau yn y gymuned; [[cylchgrawn|cylchgronau]], [[ffilm]]iau a [[llenyddiaeth]]; ymchwil academaidd; a hyd yn oed gweithgarwch ym myd busnes.