Melanoma: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Manion
→‎top: Trwsio dolennau, replaced: Y mae → Mae using AWB
Llinell 3:
Mae '''Melanoma''', neu '''melanoma llidiog''', yn fath o [[Canser|ganser]] sy'n datblygu o [[Cell|gelloedd]] yn cynnwys pigment, hynny yw melanosytau.<ref name=NCI2015>{{cite web|title=Melanoma Treatment–for health professionals (PDQ®)|url=http://www.cancer.gov/types/skin/hp/melanoma-treatment-pdq|website=National Cancer Institute|accessdate=30 June 2015|date=June 26, 2015|deadurl=no|archiveurl=https://web.archive.org/web/20150704213842/http://www.cancer.gov/types/skin/hp/melanoma-treatment-pdq|archivedate=4 July 2015|df=}}</ref> Yn fwy aml na pheidio effeithia melanoma ar y croen, serch hynny effeithia'n achlysurol ar y [[Ceg ddynol|geg]], y [[Coluddion|coluddyn]] neu'r [[Llygad|llygaid]]. Caiff ei ganfod ar y [[coes]]au yn bennaf ymysg menywod, ac ar y [[cefn]] ymhlith dynion. Gall y cyflwr ddatblygu o fôl sy'n arddangos newidiadau penodol, er enghraifft cynnydd yn ei maint, ymylon anwastad, newid yn ei liw, ymdeimlad o gosi, neu doriadau a chrychau amlwg.
 
Achosir melanoma yn bennaf gan amlygiad i olau [[uwchfioled]] (UV), mewn unigolion a lefelau isel o bigment croen.<ref name=WCR2014/><ref>{{cite journal |vauthors=Kanavy HE, Gerstenblith MR |title=Ultraviolet radiation and melanoma |journal=Semin Cutan Med Surg |volume=30 |issue=4 |pages=222–8 |date=December 2011 |pmid=22123420 |doi=10.1016/j.sder.2011.08.003 |url=http://linkinghub.elsevier.com/retrieve/pii/S1085-5629(11)00130-1}}</ref> Gall y golau UV hynny ddeilio o'r haul neu o ffynonellau eraill megis gwelyau haul. Datblyga oddeutu 25% o achosion melanoma o folau. Y maeMae'r rheini sydd ag amryw o folau, hanes teuluol o'r cyflwr neu [[system imiwnedd]] gwan yn unigolion risg uchel. Gall rai datblygu'r cyflwr o ganlyniad i ddiffygion genetig prin fel xeroderma pigmentosum hefyd. Gwneir [[Diagnosis meddygol|diagnosis]] drwy gynnal [[biopsi]] ar unrhyw namau croen amlwg.
 
Gellir osgoi'r cyflwr melanoma drwy ddefnyddio [[eli haul]] a chysgodi rhag golau UV. Fel rheol caiff y cyflwr ei ddileu drwy [[Llawfeddygaeth|lawdriniaeth]]. Mewn achosion lle mae'r canser yn fwy o ran maint, ac yn agosach at y nodau lymff, cynhelir prawf er mwyn archwilio lledaeniad y cyflwr. Gellir gwella'r rhan fwyaf o achosion lle nad yw'r canser wedi lledaenu. Cynigir y triniaethau canlynol i'r rheini lle y mae melanoma wedi lledaenu er mwyn cyfyngu neu wella'r cyflwr; imiwnotherapi, therapi biolegol, therapi [[ymbelydredd]], neu [[Cemotherapi|gemotherapi.]]<ref name=NCI2015/><ref name=Syn2017>{{Cite journal|last=Syn|first=Nicholas L|last2=Teng|first2=Michele W L|last3=Mok|first3=Tony S K|last4=Soo|first4=Ross A|title=De-novo and acquired resistance to immune checkpoint targeting|url=http://linkinghub.elsevier.com/retrieve/pii/S1470204517306071|journal=The Lancet Oncology |volume=18|issue=12|pages=e731–41 |pmid=29208439 |doi=10.1016/s1470-2045(17)30607-1}}</ref> Yn yr [[Unol Daleithiau America|Unol Daleithiau]] y mae 98% o ddioddefwyr melanoma cyfyng yn goroesi dros bum mlynedd wedi eu diagnosis os derbyniant driniaeth, 17% o ddioddefwyr melanoma gwasgaredig sy'n goroesi'r cyfnod hwnnw wedi triniaeth.<ref name=SEER2015>{{cite web|title=SEER Stat Fact Sheets: Melanoma of the Skin|url=http://seer.cancer.gov/statfacts/html/melan.html|website=NCI|deadurl=no|archiveurl=https://web.archive.org/web/20140706134347/http://seer.cancer.gov/statfacts/html/melan.html|archivedate=2014-07-06|df=}}</ref> Mae tebygolrwydd dychwelyd neu ledaenu'r cyflwr yn dibynnu ar drwch y melanoma, pa mor gyflym y rhanna'r celloedd, a natur doredig y croen gorchuddiol.