Patrick Swayze: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
→‎Ei flynyddoedd cynnar: Trwsio dolennau, replaced: cymrodd → cymerodd using AWB
Llinell 13:
Ganwyd Patrick Swayze ar [[18 Awst]], [[1952]] yn [[Houston, Texas|Houston]], [[Texas]], yn blentyn cyntaf i Patsy Yvonne Helen (née Karnes; g. 1927), [[coreograffwraig]], hyfforddwraig ddawns, a Jessie Wayne Swayze (1925-1982), dyluniwr peirianyddol. Roedd ganddo ddu frawd iau, yr actor Don (ganed 1958) a Sean Kyle (ganed 1962), a dwy chwaer, Vicky Lynn (1949-1994) a Bambi, a gafodd eu mabwysiadu gan y teulu. Daeth ei gyfenw o enw un o'i gyn-deidiau Seisnig o'r enw "Swasey" a fewnfudodd i'r Unol Daleithiau
 
Tan ei fod yn 20 oed, trigai Swayze yng nghymdogaeth Oak Forest yn Houston, lle mynychodd Ysgol Gatholig y Santes Rose o Lima, Ysgol Gynradd Oak Forest, Ysgol Black Middle, ac Ysgol Uwchradd Waltrip. Yn ystod y cyfnod hwn, cymroddcymerodd ran mewn nifer o weithgareddau artistig ac athletaidd, megis [[sglefrio iâ]], [[ballet clasurol]] ac actio mewn dramâu ysgol. Astudiodd [[gymnasteg]] am ddwy flynedd yn y Coleg San Jacinto cyfagos.
 
Ym 1972, symudodd i [[Dinas Efrog Newydd|Ddinas Efrog Newydd]] er mwyn cwblhau ei hyfforddiant dawns ffurfiol yn ysgolion [[ballet]] Harkness a Joffrey.