Jack Jenkins: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Trwsio dolennau using AWB
Llinell 3:
 
== Hanes personol ==
Ganed Jenkins yn [[Trecelyn|Nhrecelyn]] ym 1880. Cafodd ei addysg yn Ysgol Long Ashton, [[Bryste]] cyn ymaelodi a'r [[Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst|Coleg Milwrol Brenhinol, Sandhurst]]. <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/4150668|title=J C JENKINS Newport - Evening Express|date=1905-03-18|accessdate=2019-07-22|publisher=Walter Alfred Pearce}}</ref> Fe'i comisiynwyd i [[Cyffinwyr De Cymru|Gyffinwyr De Cymru]] yn 18 oed, ond yn 1903 ymddiswyddodd o'r Fyddin Brydeinig a dilynodd gwrs cyfrifeg. Ym 1908, ymunodd â Llu Tiriogaethol Sir Fynwy, a oedd newydd ei ffurfio. Erbyn 1911 cafodd ei ddyrchafu i safle Uwchgapten, a phan ddechreuodd [[y Rhyfel Byd Cyntaf]], cafodd ei anfon i [[Ffrainc]] fel Is-gyrnol, yn arwain 2il Fataliwn Catrawd Sir Fynwy. <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3371465|title=LOCAL COMMISSIONS - Weekly Mail|date=1899-03-11|accessdate=2019-07-22|publisher=Henry Mackenzie Thomas}}</ref>
 
Priododd Jenkins â Helena Leigh (née Roose) chwaer y chwaraewr [[pêl-droed]] rhyngwladol Cymreig [[Leigh Richmond Roose]]. <ref name="Jenkins81">Jenkins (1991), tud 81.</ref> <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/4247979|title= HOLT; WEDDING OF MISS H. L. ROOSE - Cheshire Observer|date=1903-10-03|accessdate=2019-07-22|publisher=James Albert Birchall}}</ref> Bu mab Jenkins, C R Jenkins yn chwarae rygbi clwb ar gyfer nifer o dimau, gan gynnwys gwasanaethu fel capten tîm Gogledd yr Iwerddon yn ystod tymor 1933/34; ac fel ei dad, wynebodd dîm teithiol De Affrica ym 1931 gan gynrychioli Ulster.
 
== Gyrfa rygbi ==
Chwaraeodd Jenkins rygbi yn Ysgol Long Ashton i ddechrau, a byddai'n cynrychioli timau lleol Aberpennar a Threcelyn yn ddiweddarach. Erbyn 1901 roedd yn chwarae i dîm rygbi dosbarth cyntaf Casnewydd, gan ymddangos i'r tîm cyntaf dros gyfnod o chwe thymor gan wneud 61 ymddangosiad. <ref>[http://www.blackandambers.co.uk/Personnel.aspx?pr=106741 Jack Jenkins] {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20110617060454/http://www.blackandambers.co.uk/Personnel.aspx?pr=106741 |date=2011-06-17 }} blackandambers.co.uk</ref> Yn ystod y cyfnod hwn treuliodd Jenkins lawer o'i amser yn Lloegr, a daeth yn aelod rheolaidd o dîm alltud Cymry Llundain, bu hefyd yn chware i dimau rygbi Rosslyn Park a Middlesex County. Ym 1905, wynebodd Jenkins ei wrthwynebwyr rhyngwladol cyntaf, fel rhan o dîm Middlesex i wynebu'r [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Seland Newydd|Crysau Duon]] <ref name="Jenkins81">Jenkins (1991), tud 81.</ref> yn Stamford Bridge, yn ystod taith dramor gyntaf Seland Newydd. Collodd Middlesex y gêm yn drwm, 34-0.
 
Yn ystod tymor 1906-1907, bu Jenkins yn wynebu tîm teithiol [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol De Affrica|De Affrica]] ar dri achlysur. Yn y cyfarfod cyntaf, roedd Jenkins yn chwarae i Middlesex County, gan golli 9-0 i'r Springboks yn Richmond. Ar 22 Tachwedd 1906, daeth Jenkins i Sir Fynwy wynebu Morgannwg mewn treial Cymreig ar gyfer y gêm ryngwladol rhwng Cymru a De Affrica. <ref name="Billot36-37">Billot (1974), tud 36-37.</ref> Dyfarnwyd pedwar cap newydd gan dîm Cymru, sef Jenkins, Dick Thomas o Aberpennar, John Dyke o Benarth a [[Johnny Williams|Johnnie Williams]] o Gaerdydd. Yn y treial, o'r capiau newydd, dim ond Williams a wnaeth argraff fawr, nid oedd yr un o'r tri chwaraewr arall yn dangos gallu mawr, ond roeddent yn 'rhagori ar unrhyw un o'u cystadleuwyr heb eu capio'. <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/4170090|title=New Welsh Caps - Evening Express|date=1906-11-24|accessdate=2019-07-22|publisher=Walter Alfred Pearce}}</ref> Ar 1 Rhagfyr 1906 enillodd Jenkins ei unig gap pan chwaraeodd ar faes San Helen Abertawe gan wynebu'r Springboks. Enillodd De Affrica'r gêm yn gyfforddus, gyda llawer o'r bai am y golled yn cael ei rhoi ar y chwaraewyr blaen. Cafodd Jenkins a Williams eu cyhuddo o 'fethu sgrymio'. <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/4097666|title=LIEUT COLONEL J C JENKINS - The Cambria Daily Leader|date=1914-10-17|accessdate=2019-07-22|publisher=Frederick Wicks}}</ref>
 
Er gwaethaf y golled, roedd Jenkins yn rhan o dîm Sir Fynwy a oedd yn wynebu'r un tîm o Dde Affrica ar Ŵyl San Steffan 1906. Roedd Jenkins, ynghyd â'r capten [[Twyber Travers|George Travers]], yn un o ddim ond dau chwaraewr â phrofiad rhyngwladol, <ref name="Billot45">Billot (1974), tud 45.</ref> ac roedd y tîm wedi gwanhau ymhellach ar ôl i Gasnewydd wrthod rhyddhau eu chwaraewyr ar ôl dadl dros y lleoliad. Roedd De Affrica yn drech na Sir Fynwy, gan ennill 17-0, a rhoddodd Jenkins ei hun cyfle i'r gwrthwynebwyr i sgorio'r ail gais ar ôl cic gwan. <ref name="Billot46">Billot (1974), tud 46.</ref>
 
Tua diwedd ei yrfa rygbi, daeth Jenkins yn fwy cysylltiedig â Chymry Llundain, ac yn nhymor 1910/11 rhoddwyd capteniaeth y clwb iddo. Chwaraeodd ran fawr hefyd fel aelod o bwyllgorau. Bu'n Ysgrifennydd Anrhydeddus rhwng 1908 a 1911. <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/4154868|title=LONDON WELSH CLUB - Evening Express|date=1905-08-03|accessdate=2019-07-22|publisher=Walter Alfred Pearce}}</ref> Yn 1911 roedd yn un o dri aelod a ysgrifennodd rheolau aelodaeth clwb. <ref name="Jones56">Jones (1985), tud 56.</ref> Wedi dychwelyd o'i ddyletswydd filwrol yn Ffrainc ymddiswyddodd Jenkins o'r clwb ar ôl canfod bod ymddiriedolwyr y clwb wedi gwerthu'r rhydd-ddaliad ar faes Heathfield, cartref Cymry Llundain. <ref name="Jones57">Jones (1985), tud 57.</ref> Roedd record Jenkins yn Llundain yn drawiadol, yn ymestyn dros 12 mlynedd a 200 o gemau. <ref name="Jones312">Jones (1985), tud 312.</ref>
 
=== Gemau rhyngwladol ===
'''Cymru''' <ref name="Smith467">Smith (1980), tud 467.</ref>
 
* {{banergwlad|De Affrica}} 1906
 
== Llyfryddiaeth ==
Llinell 28:
* {{Cite book|last=Smith|first=David|last2=Williams, Gareth|title=Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union|year=1980|publisher=University of Wales Press|location=Cardiff|isbn=0-7083-0766-3}}
== Cyfeiriadau ==
 
 
[[Categori:Marwolaethau 1971]]