Roger Boore: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 3:
Ganed '''Roger Boore''' yng [[Nghaerdydd]] yn 1938, ond magwyd yn [[Leamington Spa]], Warwickshire, Lloegr. Addysgwyd yn Ysgol Warwick a [[Coleg Iesu, Rhydychen|Choleg Iesu]], Rhydychen. Enillodd radd yn y Clasuron ("[[Literae Humaniores]]") yn Rhydychen yn 1961 a PhD mewn Hanes ym [[Prifysgol Cymru, Abertawe|Mhrifysgol Cymru Abertawe]] yn 2005. Mae hefyd yn Gyfrifydd Siartredig. Dysgodd Gymraeg ar ôl i’w deulu golli’r iaith.<ref name=":0">{{Cite news|url=|title=Cyhoeddwr sydd am addasu'r llyfrau gorau ar gyfer plant Cymru|last=|first=|date=30-9-1970|work=Y Cymro|archive-url=|archive-date=|dead-url=|access-date=}}</ref><ref>{{Cite news|url=|title=One-man band with a critic. aged five|last=Creber|first=Paul|date=22-11-1973|work=The Western Mail|archive-url=|archive-date=|dead-url=|access-date=}}</ref><ref name=":1">{{Cite news|url=|title=Dod â goreuon byd i blant Cymru|last=Griffiths|first=Gwyn|date=2-7-1997|work=Y Cymro|archive-url=|archive-date=|dead-url=|access-date=}}</ref>
 
Ef a’i wraig Anne a sefydlodd [[Gwasg y Dref Wen|Wasg y Dref Wen]], Caerdydd, yn 1969-70, gyda phwyslais ar lyfrau Cymraeg i blant, gan ddechrau â rhai lliwgar storïol ac ehangu i lyfrau addysgol, llyfrau dwyieithog ac eraill.<ref name=":0" /><ref>{{Cite news|url=|title=Family affairs|last=Shankland|first=Liz|date=24-3-1993|work=Family Life, The Western Mail|archive-url=|archive-date=|dead-url=|access-date=}}</ref> Ymhlith y llaweroedd o gyhoeddiadau’r wasg dan ei reolaeth roedd ''Llyfr Hwiangerddi y Dref Wen'', ''Y Geiriadur Lliwgar'', a'r cyfresi "Storïau Hanes Cymru" ac "O’r Dechrau i’r Diwedd" (am grefyddau). Trosodd Roger Boore lyfrau plant niferus i’r Gymraeg o amryw ieithoedd. Yn 1997 dyfarnwyd iddo [[Tlws Mary Vaughan Jones|Dlws Mary Vaughan Jones]] am ei “gyfraniad nodedig i faes llyfrau plant yng Nghymru dros gyfnod o flynyddoedd”<ref name=":1" /><ref>{{Cite news|url=|title=Hard going in the tough world of publishing|last=Basini|first=Mario|date=4-10-1997|work=The Western Mail|archive-url=|archive-date=|dead-url=|access-date=}}</ref> ac yn 2016 derbyniwyd yn aelod o [[Gorsedd y Beirdd|Orsedd y Beirdd,]] Wisg Las, am ei “wasanaeth i’r genedl”.<ref>{{Cite journal|url=|title=Cymru "yn dod yn fyw"|last=|first=|date=4-8-2016|journal=Golwg|volume=|pages=}}</ref><ref>{{Cite web|url=https://eisteddfod.cymru/anrhydeddaur-orsedd-2016|title=Anrhydeddau'r Orsedd 2016 / Gorsedd Honours for 2016|date=c. 6-5-2016|access-date=|website=Anrhydeddau'r Orsedd 2016 / Gorsedd Honours for 2016|last=|first=|archiveurl=https://web.archive.org/web/20190821192301/https://eisteddfod.cymru/anrhydeddaur-orsedd-2016|archivedate=2019-08-21|deadurl=|url-status=dead}}</ref>
 
Enillodd Roger Boore gystadleuaeth y stori fer yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor a'r cylch 1971]] a’r Fedal Ryddiaith yn [[Eisteddfod Pantyfedwen 1972]]. Yn ogystal â’i drosiadau, mae wedi cyhoeddi un casgliad o straeon byrion, un nofel i blant a chyfres arloesol o bum llyfr taith.