Uwch Gynghrair Bosnia a Hertsegofina: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Trwsio dolennau using AWB
Llinell 19:
|current = [[2020–21 Premier League of Bosnia and Herzegovina|2020–21 Premier League]]
}}
'''Uwch Gynghrair Bosnia a Hertsegofina''' ([[Bosnieg]]: '''Premijer liga Bosne i Hercegovine'''; [[Yr wyddor Gyrilig|Cyrilig]]: ''м:тел Премијер лига Босне и Херцеговине'') yw prif adran [[pêl-droed]] yng ngweriniaeth [[Bosnia a Hertsegofina]] ac fe'i trefnir gan y [[Cymdeithas Bêl-droed Bosnia a Hertsegofina]].
 
Gelwir yn swyddogol ac am resymau nawdd cyfredol (2020) yn ''M:tel Premijer liga Bosne i Hercegovine'' neu yn syml '''Premijer liga''' neu '''Liga 12'''. Mae pencampwr y gynghrair yn cael lle yn ail rownd [[Cynghrair y Pencampwyr UEFA]].
Llinell 32:
Ar ôl chwalu [[Iwgoslafia]], cyhoeddodd Bosnia a Herzegovina annibyniaeth ddiwedd gaeaf 1992, ac eisoes ym mis Ebrill yr un flwyddyn gwnaeth N / FSBiH gais am aelodaeth gyda [[FIFA]] ac [[UEFA]].<ref name="N-FSBiH History">{{cite web|title=N/FSBiH History|url=http://www.nfsbih.ba/en/tekst.php?id=7|website=www.nfsbih.ba|publisher=N/FSBiH|accessdate=27 December 2016|language=en|url-status=dead|archiveurl=https://web.archive.org/web/20161130213742/http://www.nfsbih.ba/en/tekst.php?id=7|archivedate=30 November 2016|df=dmy-all}}</ref> Yn y cyfamser, oherwydd dechrau Rhyfel Bosnia ym mis Ebrill 1992 ni chwaraewyd unrhyw gemau yn nhymor 1992-93. Ddiwedd 1993 ail-lansiodd rhai rhannau o'r wlad gystadlaethau pêl-droed gyda llai o gwmpas. Ond yn union fel roedd y wlad wedi'i rhannu ar hyd llinellau ethnig, felly hefyd pêl-droed.
 
Yn 1993 lansiodd Croatiaid Bosnia (oedd ar y pryd am creu gwladwriaeth ar wahân ac uno gyda [[Croatia]]), ''Ffederasiwn Pêl-droed Herzeg Bosnia'' a'i Prif Gynghrair o Herzeg-Bosnia, lle mai dim ond clybiau Croateg oedd yn cystadlu ar raddfa blwyfol o fewn terfynau Gorllewin Herzegovina ac ychydig o beuoedd eraill. Yn yr un flwyddyn, trefnodd Serbiaid Bosnia (oedd hefyd am greu gwladwrieth ar wahân ac yn ymuno â [[Serbia]]), eu Prif Gynghrair eu hunain o'r [[Republika Srpska]], ar diriogaeth a oedd gan gyfundrefn Republika Srpska ar y pryd. Dim ond pêl-droed ar diriogaeth a oedd o dan reolaeth sefydliadau Gweriniaeth Bosnia a Herzegovina ar y pryd ac ar nawdd [[Cymdeithas Bêl-droed Bosnia a Herzogovina|N/FSBiH]] (''Nogometni/Fudbalski Savez Bosne i Hercegovine'' Cymdeithas Bêl-droed Bosnia a Hercogovina), ar y pryd o ganlyniad gyda mwyafrif Bosniak (Mwslemiaid Bosnia, fwy nag heb), ar wahân i gystadleuaeth fer ar gyfer y tymor 1994–95 (a enillwyd gan Čelik Zenica) i stop. Ni ailddechreuodd y gystadleuaeth o dan adain N/FSBiH tan dymor 1995-96 pan lansiwyd Cynghrair Gyntaf Bosnia a Herzegovina. <ref name="N-FSBiH History"/>
 
Ar ôl [[Rhyfel Bosnia]], chwaraewyd tair pencampwriaeth ar wahân, yn y Gynghrair ac yn y Cwpan, ac yn cyfateb i fwyafrif grwpiau ethnig y wlad: y Bosnia, y Croateg a'r Serbeg. Yn 1998 sefydlwyd ail gyfle rhwng hyrwyddwyr y cynghreiriau Croateg a Mwslimaidd, a enillwyd gan FK Željezničar Sarajevo.