Nam ar y clyw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Trwsio dolennau using AWB
 
Llinell 1:
[[Delwedd:Deafness and hard of hearing symbol.png|bawd]]
Mae '''nam ar y clyw''', neu fod yn drwm o glyw, yn anallu clywedol rhannol neu lwyr. Gall nam ar y clyw fod yn bresennol adeg genedigaeth <ref>{{Cite web|title=Sgrinio Clyw Babanod Cymru - Mae colled ar glyw eich babi|url=http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/980/tudalen/56324|website=www.wales.nhs.uk|access-date=2020-09-05|first=Sgrinio Clyw Babanod|last=Cymru}}</ref> neu ei gaffael ar unrhyw adeg wedi hynny. Gall nam ar y clyw ddigwydd mewn un glust neu'r ddwy. Mewn plant, gall problemau clyw effeithio ar y gallu i ddysgu iaith lafar, ac mewn oedolion gall greu anawsterau gyda rhyngweithio cymdeithasol ac yn y gwaith. Gall nam ar y clyw fod dros dro neu'n barhaol. Mae nam ar y clyw sy'n gysylltiedig ag oedran fel arfer yn effeithio ar y ddwy glust ac mae'n ganlyniad i golli celloedd gwallt y cochlea. Mewn rhai pobl, yn enwedig pobl hŷn, gall nam ar y clyw arwain at unigrwydd. Defnyddir y term byddar ar gyfer y sawl sydd heb lawer o glyw neu sydd a dim clyw o gwbl. <ref>{{Cite web|title=Hearing loss|url=https://www.nhs.uk/conditions/hearing-loss/|website=nhs.uk|date=2017-10-20|access-date=2020-09-05|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
==Pethau sy'n achosi nam ar y clyw ==
Gall nam ar y clyw gael ei achosi gan nifer o ffactorau, gan gynnwys: geneteg, heneiddio, dod i gysylltiad â sŵn, rhai heintiau, cymhlethdodau geni, trawma i'r glust, a rhai meddyginiaethau neu docsinau. Cyflwr cyffredin sy'n arwain at golli clyw yw heintiau cronig ar y glust. Gall rhai heintiau yn ystod beichiogrwydd, fel cytomegalofirws, syffilis a rwbela, hefyd achosi nam ar glyw plentyn. Gwneir diagnosis o golled clyw pan fydd profion clyw yn canfod nad yw person yn gallu clywed 25 desibel mewn o leiaf un glust. Argymhellir profi am glyw gwael ar gyfer pob baban newydd-anedig. Gellir categoreiddio colled clyw fel ysgafn (25 i 40 &nbsp;dB), cymedrol (41 i 55 &nbsp;dB), cymedrol i ddifrifol (56 i 70 &nbsp;dB), difrifol (71 i 90 &nbsp;dB), neu ddwys (mwy na 90 &nbsp;dB). Mae tri phrif fath o golled clyw: colled clyw dargludol, colled clyw synhwyraidd, a cholled clyw cymysg.
 
Gellir atal tua hanner y golled clyw yn fyd-eang trwy fesurau iechyd cyhoeddus. Mae arferion o'r fath yn cynnwys imiwneiddio, gofal priodol o amgylch beichiogrwydd, osgoi sŵn uchel, ac osgoi rhai meddyginiaethau. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bod pobl ifanc yn cyfyngu amlygiad i synau uchel a defnyddio chwaraewyr sain bersonol i awr y dydd mewn ymdrech i gyfyngu ar amlygiad i sŵn. Mae adnabod colled clyw a chynnig cefnogaeth gynnar yn arbennig o bwysig mewn plant.
 
==Epidemioleg==
Mae nam ar y clyw yn effeithio ar oddeutu 1 biliwn o bobl i ryw raddau. Mae'n achosi anabledd mewn tua 466 miliwn o bobl (5% o'r boblogaeth fyd-eang), ac anabledd cymedrol i ddifrifol mewn 124 miliwn o bobl. O'r rhai ag anabledd cymedrol i ddifrifol mae 108 miliwn yn byw mewn gwledydd incwm isel a chanolig. O'r rhai â cholled clyw, dechreuodd yn ystod plentyndod i 65 miliwn. <ref>{{Cite web|title=Deafness and hearing loss|url=https://www.who.int/news-room/fact-sheets/detail/deafness-and-hearing-loss|website=www.who.int|access-date=2020-09-05|date=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
==Pethau sy'n helpu pobl gyda nam ar y clyw ==