Tiger Bay: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cywiro camgymeriadau gramadegol / Correcting grammatical errors
→‎Hanes: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
Llinell 9:
Chwaraeodd datblygiad Dociau Caerdydd ran bwysig yn hanes datblygu dinas Caerdydd ei hun a dyfodd o fod yn dref arfordirol fechan i fod yn ddinas fwyaf Cymru a'i phrifddinas. Trwy'r dociau hyn yr allforwyd rhan helaeth o [[glo|lo]] [[Cymoedd De Cymru|Cymoedd y De]] i weddill y byd, ac ar un adeg porthladd Caerdydd oedd un o'r porthladdoedd prysuraf yn y byd gyda 10,700,000 tunnell o lo yn cael ei allforio ohono erbyn 1913.
 
Tyfodd cymuned unigryw o gwmpas ardal y dociau; daeth gweithwyr y dociau a morwyr o bob rhan o'r byd i ymsefydlu yno a daethpwyd i'w adnabod fel 'Tiger Bay' oherwydd llif cryf y dŵr rhwng y dociau ac [[Afon Hafren|Afon Hafren.]].
 
Yn Tiger Bay ymgartrefodd pobl o tua 45 o genhedloedd, gan gynnwys [[Norwyaid]], [[Somaliaid]], [[Iemeniaid]], [[Sbaenwyr]], [[Eidalwyr]], [[Gwyddelod]] a phobl o'r [[Caribî]] gan roi cymeriad amlddiwylliannol arbennig i'r ardal. Yn wahanol i hanes cymunedau o fewnfudwyr mewn dinasoedd mawr fel [[Efrog Newydd]], ymododdai cymunedau Tiger Bay i'w gilydd, gyda phobl yn cymysgu a phriodi.