L'Origine du monde: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat Tagiau: Golygiad cod 2017 |
|||
Llinell 3:
Llun a baentiwyd gan yr arlunydd [[Ffrancod|Ffrengig]] [[Gustave Courbet]] ym 1866 yw '''''L'Origine du monde''''' ([[Ffrangeg]], yn golygu '''''Tarddiad y Byd'''''). Mae'n baentiad olew ar gynfas o organau rhyw ac abdomen dynes noeth sy'n gorwedd ar wely gyda'i choesau ar led. Mae'n un o weithiau celf [[erotig]] mwyaf adnabyddus y byd. Er 1995 mae i'w weld yn y [[Musée d'Orsay]], [[Paris]].
Mae'n debyg mai Joanna Hiffernan, neu "Jo", oedd y model. Roedd hi'n gariad yr artist Americanaidd [[James Whistler]], un o ddisgyblion Courbet ar y pryd. Bwriad Courbet oedd ymestyn ffiniau [[realaeth]] mewn celf
Comisiynwyd y gwaith gan Khalil Bey, diplomydd Tyrcaidd, cyn lysgenad [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] yn [[Athen]] a [[Saint Petersburg]] a oedd newydd symud i [[Paris|Baris]]. Roedd yn gasglwr brwd o gelf erotig. Aeth y paentiad trwy sawl dwylo ar ôl hynny cyn mynd i'r Musée d'Orsay yn 1995.
|