Margaret Beaufort: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill, replaced: eisioes → eisoes , i fewn → i mewn using AWB
Llinell 13:
 
==Trefnu priodas ei mab==
Yn 1482, wedi i [[Richard III, brenin Lloegr]] gipio coron Lloegr oddi wrth [[Edward V, brenin Lloegr|Edward V]] a oedd ar y pryd yn ddim ond 12 mlwydd oed, ffodd mam Edward, [[Elizabeth Woodville]] am ei bywyd gan hawlio lloches, gyda'i merch [[Elisabeth o Efrog]] ac eraill o'i theulu, yn [[Abaty Westminster]]. Bu yno am rai misoedd; yn y cyfamser, roedd y brenin newydd yn awyddus iawn i'w hatal rhag cysylltu gyda [[Harri Tudur]] yn [[Llydaw]], ac yn awyddus i'w cloi yn [[Tŵr Llundain|Nhŵr Llundain]]. I'r perwyl hwn, amgylchynodd Richard yr abaty gyda llu o'i filwyr gorau i atal neb rhag mynd i fewnmewn nag allan. Roedd Margaret Beaufort yn awyddus i gysylltu gydag Elizabeth, a oedd i bob pwrpas yn garcharor yn yr abaty. Meddyg Elizabeth Woodville a'i theulu oedd yr Lancastriad [[Lewis o Gaerleon]], a heriodd farwolaeth sawl tro yn mynd a negeseuon o'r naill at y llall, gan drefnu gyda nhw briodas Harri a merch Elisabeth, sef Elisabeth o Efrog. Hi felly drefnodd yr uniad rhwng yr Iorciaid a'r Lancastriaid, a hynny flynyddoedd cyn y briodas ei hun ac a ysbrydolodd lawer o'r ddwy ochor i sicrhau llwyddiant Harri Tudur.<ref>[http://wbo.llgc.org.uk/cy/c5-LEWI-SOG-1491.html Gwefan Bywgraffiadur ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol]</ref><ref>Polydore Vergil gofnododd hyn; drwy: ''Bosworth: The Birth of the Tudors''; Gwasg Phoenix; 2003. Tud. 139</ref>
 
===Dialedd Richard III===
Oherwydd mai Margaret oedd wrth wraidd gwrthryfel aflwyddiannus 1483, pan drodd saith llong o Lydaw yn eu holau, a phan dienyddiwyd gwrthryfelwyr fel Henry Stafford, ail ddug Buckingham, roedd Richard mewn cyfyng-gyngor beth i'w wneud gyda Margaret. Yn hytrach nag ymuno gyda Buckingham, beth wnaeth ei gŵr tra phwerus, [[Thomas Stanley, iarll cyntaf Derby|Thomas, Arglwydd Stanley]], oedd dim. Nid ochrodd gyda'i wraig Margaret a Harri, a thrwy hynny, ochrodd gyda Richard. Gwobrwywyd ef gan y brenin, a derbyniodd llawer o diroedd yn Lloegr a pheth yng Nghymru. Roedd eisioeseisoes (o dan Buckingham) yn un o uchelwyr grymusaf Cymru. Nid ymunodd y Cymru yn y gwrthryfel cyntaf, aflwyddiannus, yn bennaf gan nad oedd Thomas Stanley yn rhan o'r ymgyrch; yn eu barn nhw, Sais oedd Henry Stafford, ac nid oes tystiolaeth i unrhyw uchelwr o Gymro ei ddilyn. Yn hytrach na dienyddio Margaret am ei rôl blaenllaw yn yr ymgyrch, tynnodd Richard III ei harian oddi wrthi a'i roi i'w gŵr; yn yr un modd tynnodd ei gweision a'i morynion oddi wrthi a'i chaethiwo dan ofal ei gŵr. I ferch annibynol, gyda'i harian a'i thiroedd a'i rhyddid ei hun, roedd hyn yn gosb llym. Ond parhau i weithio yn y dirgel dros Harri wnaeth Margaret.
 
===Addewid i briodi Elizabeth===