Germaine de Staël: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Gwybodlen wd
→‎top: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill, replaced: ac hefyd → a hefyd using AWB
Llinell 10:
Ganwyd ym [[Paris|Mharis]] i rieni [[Y Swistir|Swisaidd]] [[Protestaniaeth|Protestannaidd]]. Priododd y Barwn Staël-Holstein, diplomydd Swedaidd, ym 1786. Gadawodd Ffrainc ym 1792 yn ystod yr oes chwyldroadol, ond dychwelodd dan lywodraeth y Gyfarwyddiaeth. Cynhaliodd salon ym Mharis a fu'n ganolfan i ddeallusion a gwleidyddion o fri, ac yno enillodd enw i'w hunan fel ymddiddanwraig ffraeth. Yn ddiweddarach gwahanodd o'i gŵr a daeth yn glos i [[Benjamin Constant]].
 
Ysgrifennodd ddwy nofel a ellir eu hystyried yn "rhag-[[ffeministiaeth|ffeministaidd]]": ''Delphine'' (1802) a ''Corinne'' (1807). O ganlyniad i'w gwrthwynebiad i [[Napoleon Bonaparte]] bu'n rhaid iddi adael Paris ym 1803. Cyhoeddodd hefyd sawl traethawd ar athroniaeth gymdeithasol ac [[estheteg]], aca hefyd y dair chyfrol ''De l'Allemagne'' (1810) yn sgil ei thaith drwy'r Almaen. Cafodd argraffiad cyntaf y gwaith hwnnw ei ddinistrio ar orchymyn Napoleon, gan iddo ei ystyried yn "wrth-Ffrengig".
 
== Cyfeiriadau ==