Siân James (cantores): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Gyrfa: Golygu cyffredinol (manion), replaced: Ennillodd → Enillodd using AWB
Rescuing 0 sources and tagging 1 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 28:
Fe'i haddysgwyd yn [[Ysgol Gynradd Llanerfyl]] ac [[Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion]] lle dechreuodd gyfansoddi ei chaneuon ei hun, cyn mynd ymlaen i astudio cerdd ym [[Prifysgol Bangor|Mhrifysgol Cymru, Bangor]]. Enillodd hefyd gymhwyster dysgu.<ref name="BBCproffil">[http://www.bbc.co.uk/cymru/canolbarth/enwogion/cantorion/pages/sian_james.shtml Proffil ar wefan BBC Cymru]</ref>
 
Bu'n aelod o'r grŵp [[Bwchadanas]] cyn dechrau creu cerddoriaeth yn unigol.<ref name="Sain">[http://www.sain.wales.com/sain/thing.aspx?thingid=41&letter=* Bywgraffiad ar wefan Sain]{{Dolen marw|date=February 2021 |bot=InternetArchiveBot |fix-attempted=yes }}</ref> Rhyddhaodd bedwar albym ar label [[Cwmni Recordiau Sain|Sain]] cyn cael ei chomisiynu gan [[BBC 2]] i gyfansoddi cerddoriaeth i gyd-fynd gyda cyfres ''Birdman'' a oedd yn dilyn gwaith swyddog [[RSPB]], [[Iolo Williams]]. Roedd y [[BBC]] mor hoff o'r caneuon, penderfynwyd eu rhyddhau fel crynoddisg. Erbyn hyn mae James yn rhyddhau recordiau ar ei label ei hun, [[Recordiau Bos]], ac yn recordio o'i stiwdio bach yn ei chartref yn [[Llanerfyl]].
 
Bu James hefyd yn actio yn ffilm [[S4C]], [[Tylluan Wen (ffilm)|Tylluan Wen]], ac mewn chyfresi megis ''Iechyd Da''. Bu ganddi gyfres ei hun am gyfnod, sef ''Siân'', darlledwyd pump rhaglen.<ref name="Sain" /> Ar y rhaglenni bu'n gwahodd artistiad gwerin rhyngwladol i gymryd rhan, megis [[The Saw Doctors]] a [[Capercaillie]].<ref name="BBCproffil" />