Helygen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
 
Llinell 45:
 
==Defnydd meddygol==
Sonir am nodweddion y goeden hon mor bell yn ôl â 1,700 C.C.<ref>[http://www.touregypt.net/edwinsmithsurgical.htm Gwefan Tour Egypt; adalwyd 17 Medi 2012]</ref> Defnyddiwyd ef ledled y byd gan gynnwys y Rhufeiniaid a Brodorion America.
 
Mae’r helygen yn enwog am ei defnyddiau meddigyniaethol – yn enwedig y [[rhisgl]] ar gyfer lleihau gwres [[twymyn]] ac atal poen [[cryd y cymslau|chryd cymalau]]‭ ‬ayyb. Ceir cofnod cynnar o hynny yn rysetiau [[Meddygon Myddfai]] yn y 12g. Y gred oedd bod planhigyn fel yr helygen yn gweithio drwy ‘ddewiniaeth sympathetig’, a bod arwydd o’i werth meddygol yn amlygu ei hun drwy ‘[[athrawiaeth yr arwyddnodau]]’ h.y. bod rhyw nodwedd o’r planhigyn yn arwydd o’i ddefnydd. Yn yr achos hwn yr arwydd oedd y cynefin – planhigyn y gwlyptir yn dda i iachau [[afiechyd|afiechydon]]on godai o effeithiau gwlybaniaeth? Ond bu raid aros tan ddiwedd y 19g i gael gwybod natur y cyffur gweithredol. Erbyn hynny, roedd technegau cemegol wedi datblygu’n ddigon da i bobl fedru dadansoddi a phuro amryw o gemegau meddyginiaethol o blanhigion – gan gynnwys y cemegyn defnyddiol o’r helygen oedd yn lladd poen. Enwyd hwn yn [[asid salisylig]] ar ôl yr helygen (''‭Salix''‬) a daeth ar y farchnad, ar ffurf asid asetyl-salisylig, a than yr enw masnachol [[Aspirin]] gyntaf yn 1899.<ref>‭Research, The Bayer Scientific Magazine‬ 9, (1999), Zundorf U</ref> Heb os, Asprin oedd un o ddarganfyddiadau meddygol pwysica’r cyfnod modern ac mae cemegwyr yn dal i ddarganfod defnyddiau newydd‭ ‬iddo hyd heddiw. Mawr yw ein dyled i’r Helygen.<ref name=Elias2006 />
 
==Llên gwerin==
Mae cryn dipyn o [[llên gwerin|lên gwerin]] am yr helygen, a llawer ohono yn codi o’r disgrifiad yn Salm 137 o’r [[Iddewon]] ynghaeth yn [[Babilon]]: ‭''Wrth afonydd Babilon, yno yr eisteddasom,‬ ac wylasom, pan feddyliasom am Seion. Ar yr helyg o’i mewn y crogasom ein telynnau.''<ref>‭Beibl William Morgan ‬(1588)</ref>. A chymaint oedd pwysau’r holl delynnau nes gwyrai’r canghennau tua’r llawr – fel petaent yn wylo. Dyna darddiad y ddelwedd o’r ‘''helygen wylofus''’ – yn wylo mewn cydymdeimlad â’r Iddewon yn eu caethiwed. Stori dda, ond, gwaetha’r modd, ddim yn hollol iawn. Oherwydd nid yr helygen fyddai ym Mabilon ond y [[poplysen wen|boplysen]]. Gwnaethpwyd y camgymeriad yn y cyfieithiad gwreiddiol i’r iaith Groeg mae’n debyg<ref>‭Oxford Dictionary of Plant Lore‬ (1995), Vickery R.</ref>. Ond roedd y syniad mai’r helygen oedd ym Mabilon wedi gwreiddio cymaint fel pan ganfyddwyd helygen wylofus go iawn – efo’i changhennau yn plygu’n naturiol tua’r llawr, yn [[Tsieina]], ddiwedd y 17g (daethpwyd â hi i’r wlad yma fel planhigyn gardd yn 1692), fe’i galwyd yn‭ ''Salix babylonica''‬ (er na fu cysylltiad Babilonaidd, botanegol o leiaf, erioed!)
 
Mae’r cysylltiad rhwng yr helygen a‭ ‬galar‭ ‬neu dristwch yn dal hefo ni – dyma pam y gwelwch ganghennau wylofus yr helygen yn addurn ar gerrig beddau a chardiau cydymdeimlo hyd heddiw.<ref name=Elias2006 />