Cenhinen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tagiau: Golygiad cod 2017
→‎Symbol cenedlaethol Cymreig: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
 
Llinell 24:
[[Delwedd:Geoff Charles' children wearing their St David's Day leeks (5450589049).jpg|bawd|chwith|Plant y ffotograffydd [[Geoff Charles]] yn gwisgo'u cennin ar Ddydd Gŵyl Dewi 1957.]]
Dim ond yn ddiweddar y daeth y [[cenhinen Bedr|genhinen Bedr]] yn rhyw fath o arwyddlun cenedlaethol [[Cymru|Cymreig]]. Y Genhinen (''leek'') ydi’r un go iawn? Mae hanes y genhinen fel arwyddlun i’r Cymry yn mynd yn ôl i droad y 5g, pan fu i [[Dewi Sant]] gynghori’r Cymry cyn brwydr fawr oedd ar fin digwydd rhyngddynt â’r [[Sacsoniaid]] [[pagan]]aidd y dylsai’r milwyr Cymreig wisgo cenhinen yn eu helmed er mwyn medru nabod ei gilydd yn haws – a’r Cymry enillodd hefyd. Roedd y Cymry’n ei gwisgo hefyd ym mrwydrau [[Brwydr Crécy|Crécy]] ag [[Brwydr Agincourt|Agincourt]] yn [[Ffrainc]] yn ystod [[y Rhyfel Can Mlynedd]].
Ceir llawer o hen ryseitiau, fel rhai [[Meddygon Myddfai]] o’r 12g yn sôn bod y genhinen yn dda nid yn unig i atal gwaedu ac asio esgyrn ond fe fyddai rhwbio sug cennin dros y corff yn arbed milwyr mewn brwydr. Dim rhyfedd i’r genhinen gael ei mabwysiadu fel bathodyn cap gan y [[Catrawd Gymreig|Gatrawd Gymreig]]. Rhan o'r seremoni dderbyn, pan fyddai recriwtiaid ifanc yn cael eu derbyn i’r Gatrawd, fyddai iddynt fwyta cenhinen amrwd ar [[Dydd Gŵyl Dewi|Ddydd Gŵyl Dewi]] (cyn i’r Catrodau Cymreig gael eu huno yn 2006).
 
Sonia [[Shakespeare]] yn ei ddrama ''[[Harri V (drama)|Henry V]]'' am y Cymry yn gwisgo cenhinen cyn brwydr [[Brwydr Poitiers|Poitiers]]: "''If your majesty is remembered of it, the Welshmen did good service...wearing leeks in their [[cap Trefynwy|Monmouth caps]], which your majesty know, to this hour is an honourable badge of the service, and I do believe your majesty takes no scorn to wear the leek upon St. Tavy’s Day''" meddai [[Fluellen]]. A phan aeth Pistol ati i wneud hwyl am ben Fluellen am wisgo cenhinen yn ei het, fe heriodd Fluellen ef i fwyta’r planhigyn. Pan wrthododd Pistol, gan ddweud, "''Not for [[Cadwaladr|Cadwallader]] and all his goats''", fe wylltiodd y Cymro ac ar ôl rhoi cweir i Pistol fe’i gorfododd i fwyta’r genhinen yn ei chrynswth, nes oedd dagrau yn rhedeg lawr ei ruddiau.
Llinell 31:
 
Aeth pobl barchus ddiwedd y 19g i ystyried y Genhinen braidd yn "gomon", ac fe aeth llawer, yn enwedig y merched, i wisgo cenhinen Bedr ar Ddygwyl Dewi yn hytrach na’r genhinen
draddodiadol. Fe wnaeth [[David Lloyd George]] ei ran hefyd, oherwydd dyna oedd o yn ei wisgo ar 1 Mawrth. Ymddangosodd yn gyffredin ar ddogfennau swyddogol oedd yn ymwneud â Chymru o hynny ymlaen.<ref>Addasiad o ysgrif a ddarlledwyd ar ‘Galwad Cynnar’, Radio Cymru, Mawrth 4ydd, 2006 gan Twm Elias (ym Mwletin Llên Natur 25 [https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn25.pdf])</ref>
 
== Rhinweddau meddygol ==